Nghynllun Her Newid yn yr Hinsawdd
Drwy Brosiect Sero er ei bod yn amlwg bod llawer o waith rhagorol yn digwydd ar draws y Cyngor i fynd i'r afael â'r argyfwng, rydym wedi nodi deunaw her y credwn y mae angen i ni eu hwynebu fel rhan o ymateb effeithiol i'r argyfwng hinsawdd. Amlinellir y rhain yng Nghynllun Her Newid yn yr Hinsawdd 2021-2030 y Crynodeb Gweithredol.
Mae crynodeb o'r Cynllun Her i'w gweld yn y fideos byr isod.
Gwastraff, Tir ac Adeiladau
Diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad diweddar ar ddrafft Cynllun Her Newid yn yr Hinsawdd 2021-30. Er bod y rhan hon o'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben, mae'r sgwrs yn parhau, ac rydym yn dal yn awyddus i glywed eich adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer Prosiect Sero. Gallwch e-bostio eich sylwadau a'ch syniadau ar sut y gallwn i gyd weithio i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd i projectzero@valeofglamorgan.gov.uk