Cost of Living Support Icon

 

16, Waun Ganol, Penarth

Perchentyaeth Cost Isel:  Dyma gyfle gwych i brynu eiddo mewn lleoliad dymunol am gost fforddiadwy

  • Ydych chi’n brynwr tro cyntaf sy’n dymuno bod yn berchen ar eich tŷ eich hun?

  • Ddim yn gallu fforddio prisiau’r farchnad? 

  • Does dim angen edrych ymhellach, gallai perchentyaeth fod o fewn eich cyrraedd.

Mae’n bleser gan Gyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Newydd, gynnig tŷ 2 ystafell wely yn Sili fel rhan o'n cynllun perchentyaeth cost isel.

 

Mae hwn yn eiddo i’w ail-werthu gyda sgôr TPY B.

Y band treth gyngor yw C.

Mae'r eiddo yn un lesddaliad gyda thymor sy'n weddill o 978 o flynyddoedd.

Y Rhent Tir yw £300 y flwyddyn gyda thaliadau gwasanaeth/cynnal a chadw o £1,000 y flwyddyn

 

Mae'r llety’n cynnwys: 

  • Cyntedd

  • Lolfa

  • Cegin/ystafell fwyta gyda chwpwrdd cerdded i mewn

  • Dwy ystafell wely

  • Ystafell Ymolchi

  • Gardd Gefn

  • Dau le parcio oddi ar y ffordd

Dyma gyfle gwych i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

 

 

 

 

Cynigir yr eiddo hwn i’w ailwerthu am 70% o bris y farchnad £175,000 (y pris 100% yw £250,000).

 

Mae’n hanfodol bod gennych Forgais mewn Egwyddor yn barod a digon o arian ar gyfer y blaendal, ynghyd â chyfreithiwr yn barod i weithredu ar eich rhan, ar ôl gweld yr eiddo. 

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ac i wneud trefniadau i weld yr eiddo, ffoniwch:

  • 01446 709433 / 01446 709476

 

Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol. 

 

Sylwer:  Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol, nodir y rhain yn y Cwestiynau Cyffredin.