Cost of Living Support Icon

Gwaith Archeolegol ar Dir ar Five Mile Lane

Rubicon Heritage yn cael ei gomisiynu gan Gyngor Bro Morgannwg i ymgymryd â rhaglen o ymchwil archeolegol s’n gysylltiedig â chynllun gwella ffordd yr A4226

 

Drwy gydol y project archeolegol cysylltodd Rubicon ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Prifysgol Caerdydd a Cadw gyda chynrychiolwyr o'r tri sefydliad yn ymweld â'r safleoedd yn ystod gwaith cloddio. 

 

Mae’r project wedi darparu ystod eang o dystiolaeth arwyddocaol iawn ar gyfer archeoleg a hanes yr ardal o gynhanes cynnar (3500BC) trwodd i gyfnod y Rhufeiniaid (1af i 4ydd ganrifoedd OC). Mae darganfyddiadau'n cynnwys:

  • Beddrodau ac amlosgiadau cynhanesyddol yr Oes Efydd

  • Caeadle anheddiad cynhanesyddol yr Oes Haearn gyda thai crwn a system caeau

  • Safle gwaith metel y Rhufeiniaid – toddi a gwaith gof haearn

  • Fila Rhufeinig a gloddiwyd o’r blaen yn y 1960au a’r 1970au

 

Gwnaed  gwaith ar nifer o safleoedd ar hyd y llwybr arfaethedig; gan gynnwys SMR15, 16, SMR16b a SMR 19.

SMR 15

Cafodd yr ardal hon ei stripio mewn tri cham lle y nododd Rubicon ffosydd niferus, cymhleth sy’n rhyngdorri ac yn gorgyffwrdd, strwythurau a adeiladwyd â physt, ffosydd cylch a thair adran gwaith metel ar wahân.

 

Aerial View of site SMR15

 

Mae mymryn o haenen pridd Rhufeinig a gladdwyd, yn cuddio nodweddion cynharach sy’n cynnwys

    • Systemau caeau Rhufeinig gyda chaeadleoedd cysylltiedig
    • Anheddiad Oes Haearn Cynharach gyda thai crwn a system caeau
    • Safle gwaith metel sy’n cynnwys darganfod leinin clai i ffwrnais a thystiolaeth o waith gof
    • Tri beddrod Oes Efydd

 

Find SMR 15 (2)
Finds on SMR 15
Find SMR 15

 

 

SMR 16

Datgelodd y safle hwn hyd un neu fwy o systemau caeau sy’n perthyn i safle’r Fila.


SMR 16

    • Ochrau gorllewinol a deheuol pedwar caeadle unionlin sy'n gorgyffwrdd
    • Darnau arian Rhufeinig sy’n dyddio o'r 3ydd a’r 4ydd ganrif yn cael eu hadfer
    • Pedair claddedigaeth ddynol (Un ohonynt yn dyddio i ddiwedd 4ydd ganrif i ddechrau'r 5ed ganrif o bosibl)
    • Tystiolaeth o sychwr ŷd

 


SMR 16b

Cafodd y darganfyddiadau yn yr ardal hon eu cloddio'n wreiddiol gan Brifysgol Caerdydd rhwng 1956 a 1976. Nododd ymchwiliadau pellach:

 

SMR 16b


  • Traean gorllewinol Fila Rufeinig Whitton Lodge.
    • Ail-arfarnu’r darganfyddiadau blaenorol, gan daflu rhagor o oleuni ar adeiladu a defnyddio’r adeiladau hyn.
  • Ystod orllewinol gyfan a hyd gorllewinol yr ystodau deheuol a gogleddol ynghyd ac ochrau deheuol, gogleddol a gorllewinol y ffos perimedr fawr.
  • Crochenwaith drwyddi draw yn dyddio i’r cyfnod Rhufeinig
  • Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y safle wedi'i amddiffyn yn gadarn ac mae'n bosibl ei fod yn fwy na safle Fila yn unig.
  • Cloddio ffosydd amddiffynnol yn fras yn 7m o led a 3m o ddyfnder

 

Find from SMT 16B
North Range SMR  16b
South Range SMR 16B

 

SMR 19

Datgelodd y safle hwn dri chaeadle sy’n rhyngdorri.

Aerial view SMR 19

  • Caeadle crwn i'r de
  • Caeadle crwn sy'n rhyngdorri/cofeb claddu diweddarach a chaeadle siâp 'D' i'r gogledd
  • Mae crochenwaith a adferwyd o'r caeadle cynnar yn dyddio'n fras i’r Oes Neolithig/Efydd
  • Mae’r caeadle diweddarach yn dangos o leiaf tri cham datblygu.
  • Dros 450 o gladdedigaethau/amlosgiadau
  • Tystiolaeth o systemau caeau cynnar sy’n dyddio o bosibl o’r Oes Efydd trwodd i’r cyfnod Rhufeinig
  • Twll post cynnar posibl/aliniadau pyllau sy’n dyddio i cyn y caeadleoedd.

 

Find from site SMR 19
Piece found at SMR 19
 

 

 

Yn ystod y gwaith, cafodd yr holl weddillion dynol eu cloddio, eu cofnodi a’u cymryd ymaith gan gydymffurfio'n llawn â thrwydded a ddosbarthwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o dan Ddeddf Claddu 1857. Cafodd y gwaith ei fonitro’n barhaus o ran safonau gan gynrychiolwyr annibynnol Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent, Archeoleg y Cotswolds ac Archeoleg y Mynydd Du.

 

Pan orffennir yr adroddiadau ar ôl y cloddio ar y darganfyddiadau, caiff y cyfan ei gymryd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.