Cost of Living Support Icon

Dogfennau Five Mile Lane

Ar 25 Ionawr 2016 mi benderfynodd y Cyngor weithredu Pryniant Gorfodol a Gorchymyn Ffyrdd Ochr at ddiben hwyluso cyflenwi cynllun adeiladu a gwelliannau a gweithfeydd eraill i wella yr A4226 Five Mile Lane

 

Os bydd y Gorchymyn Pryniant Gorfodol, a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn unol ag adrannau 239, 240, 246, 250 a 260 Deddf y Priffyrdd 1980 a Deddf Pryniant Tir 1981, yn cael ei dderbyn gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, bydd yn hwyluso pryniant gorfodol a hawliau newydd sy’n angenrheidiol i weithredu’r Cynllun Gwelliant arfaethedig, drwy alluogi i’r Cyngor brynu a chrynhoi ynghyd yn ei feddiant y tir a’r hawliau a gynhwysir yn y Gorchymyn (ac yn fwy penodol, a restrir yn yr atodiad i’r Gorchymyn, ac a ddangosir yn y cynlluniau sy’n cyd-fynd â’r Gorchymyn). Gelwir y tir a’r hawliau dros y tir, a nodir yn y Datganiad Achos sydd ynghlwm â’r Gorchymyn, yn Dir y Gorchymyn.

 

Mae’r Gorchymyn Ffyrdd Ochr, a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn unol ag adrannau 14 a 25 Deddf y Priffyrdd 1980, yn rhoddi hawl i: gau a gwella ffyrdd ochr penodol a fydd yn cysylltu â’r A4226 newydd; cynnal gwaith adeiladu priffyrdd newydd ac atal mynediad preifat i gartrefi; darparu dull mynediad newydd i’r cyfryw gartrefi, a chynnal gwaith addasu yn ôl yr angen. Os bydd y Gorchymyn Ffyrdd Ochr yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, bydd yn caniatáu ac yn hwyluso gwaith adeiladu ar y Cynllun Gwelliant ac ar weithfeydd cysylltiedig angenrheidiol ar y priffyrdd.

 

Mae’r Cyngor wedi derbyn nifer o wrthwynebiadau i’r Gorchmynion, ac o ganlyniad, bydd Ymchwiliad Cyhoeddus yn cael ei gynnal gan Archwilydd penodedig yn Swyddfa’r Doc yn y Barri am dri diwrnod, yn dechrau ar 25 Ionawr 2016. Er mwyn sicrhau bod gwaith papur dogfennau’r ddau Orchymyn, ac unrhyw wybodaeth bellach bydd y Cyngor yn dibynnu arni i gefnogi ei achos, ar gael i bartïon â diddordeb, crewyd y dudalen hon i ddarparu dolenni i’r dogfennau perthnasol.

 

1. Rhestr o’r dogfennau y cyfeiriwyd atynt yn y Datganiad Achos hwn neu a gyflwynwyd fel tystiolaeth i’r archwiliad cyhoeddus

 

a) Y Cais Cynllunio sy’n ymwneud â’r Cynllun Gwelliant arfaethedig, a’r Amgylcheddol perthnasol sy’n ei gefnogi

 

ch) Arweiniad Statudol ar gyfleu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

 

2.    Rhestr o ddogfennau pellach y gellid cyfeirio atynt neu eu cyflwyno fel rhan dystiolaeth yn yr archwiliad cyhoeddus

 

1.1        Dogfennau eraill a gyflwynwyd i gefnogi'r Cais Cynllunio (Saesneg)

 

1.2        Dogfennau eraill sy'n cefnogi'r Cynllun Gwella

 

 

3. Dogfennau’r Archwiliad Cyhoeddus