Cost of Living Support Icon

Implementation of the Serious Violence Duty in the Vale of Glamorgan

Dechreuodd y Ddyletswydd Trais Difrifol ym mis Ionawr 2023 fel rhan o Ddeddf yr Heddlu, Troseddau, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022.

Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodol gydweithio i leihau trais difrifol mewn cymunedau lleol.

 

Mae'r Ddyletswydd hon yn galw am ddull amlasiantaethol, sy'n cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, a sefydliadau perthnasol eraill. Rhaid i'r partneriaid hyn rannu gwybodaeth a chydlynu camau gweithredu i atal trais difrifol yn effeithiol.

 

Mae mynd i'r afael â thrais difrifol yn brif flaenoriaeth i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Bro Morgannwg. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phlant, teuluoedd a chymunedau i greu newid diwylliannol. Credwn fod modd atal trais, ac nad yw’n anochel.

 

Er mwyn cefnogi'r nod hwn, rydym wedi sefydlu Bwrdd Trais Difrifol. Bydd y Bwrdd hwn yn adrodd i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, gan sicrhau goruchwyliaeth ac atebolrwydd clir. Mae'n hanfodol cynnal cysylltiadau cryf â phartneriaethau strategol eraill, fel Bwrdd Rheoli y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Chamau Cynnar a Byrddau Diogelu, i wella'r effaith drwy adnoddau a gwybodaeth a rennir.

 

Rydym yn datblygu proffil trais sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan ddefnyddio setiau data amrywiol y bartneriaeth. Bydd y proffil hwn yn ein helpu i ddeall y mathau, lleoliadau, amseroedd ac unigolion sy'n gysylltiedig â digwyddiadau treisgar ledled Bro Morgannwg.

 

Pan fydd y sylfaen dystiolaeth hon yn barod, byddwn yn ffurfio is-grwpiau amlasiantaethol wedi'u targedu i ddadansoddi'r data a gyrru gwelliannau. Mae canfyddiadau cychwynnol yn dangos y bydd trais ieuenctid mewn lleoliadau addysgol yn faes ffocws allweddol.