Cost of Living Support Icon

Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr

Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Bro Morgannwg. 

 

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.

 

Mae nifer o sefydliadau sy'n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog, felly mae dod o hyd i'r sefydliad cywir yn gallu bod yn gymhleth. Bwriad Gwasanaeth Cymorth i Gyn-filwyr Bro Morgannwg yw gwneud y broses yma mor hawdd â phosibl. Byddwn ni'n eich atgyfeirio chi at y sefydliad mwyaf addas er mwyn i chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

 

P'un ai ydych chi’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd, neu wedi gwasanaethu yn y gorffennol, cewch chi a'ch teulu fanteisio ar ein gwasanaeth am gyngor a chymorth.

 

Armed Forces Covenant

Swyddog Cyngor i Gyn-filwyr 

Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am tan 5.00pm

  • 07725 704655

Grŵp Partneriaid y Lluoedd Arfog

2il a 4ydd Sgowtiaid y Barri, Dyfan Road, Y Barri, CF63 1DP

  • Dydd Sadwrn 12.00pm tan 2.00pm

 

Hwb Cyn-filwyr newydd i bartneriaid aelodau sy'n gwasanaethu ac a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Man lle gall partneriaid ddod am sgwrs a chael help a chyngor. Bydd te a chacennau.

 

Mewn cydweithrediad ag Elusen Change Step.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y grŵp, cysylltwch â:

  • 07725 704655