Cost of Living Support Icon

Siarter Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor

 

NOD

 

Bydd pobl sydd angen cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ac sy'n gymwys i dderbyn cymorth yn cael eu cynorthwyo i wneud yr isod:

  • cynnal eu hurddas personol a hunan-barch
  • cynyddu eu hanibyniaeth, dewis a rheolaeth
  • aros yn ddiogel
  • gwella safon eu bywyd a manteisio ar gyfleoedd
  • gwella cyflwr eu hiechyd a'u lles emosiynol
  • gwella eu statws economaidd
  • gwneud cyfraniad positif i'r gymuned. 

Rydyn ni'n credu y dylai pobl sy'n defnyddio gwasanaethau i oedolion ddisgwyl, er enghraifft:

  • gwasanaethau sy'n amddiffyn oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hecsploetio
  • mynediad teg i wasanaethau
  • gwasanaethau gofal dros dro da i osgoi mynediad diangen i'r ysbyty
  • darpariaeth prydlon o gyfarpar ac addasiadau i hyrwyddo annibyniaeth a'r gallu i aros yn y gymuned
  • cefnogaeth i gynhalwyr sy'n galluogi iddyn nhw barhau i gynnal y rôl allweddol hon
  • cael gadael yr ysbyty cyn gynted ag y bo anghenion meddygol yn caniatáu
  • lefelau digonol o ofal yn y cartref i helpu arbed mynediad i ofal preswyl
  • cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, yn enwedig i bobl sydd ag anableddau dysgu neu gorfforol, neu broblemau iechyd meddwl
  • gwasanaethau wedi eu cyfuno ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol
  • cyfranogaeth ystyrlon wrth gynllunio gwasanaethau

Rydyn ni'n credu y dylai plant a'u teuluoedd ddisgwyl, er enghraifft:

  • gwasanaethau sy'n amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin neu eu hecsploetio 
  • cymorth prydlon i arbed i blant a phobl ifanc orfod derbyn gofal dros dro diangen
  • gofal o safon wrth gartrefu plant mewn gofal, a gwasanaethau ychwanegol i gyflawni eu hanghenion addysgiadol ac iechyd
  • cyfleoedd am ofal hamdden a seibiant i gynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu a/neu anableddau a'u teuluoedd
  • gweithredu i arbed troseddu a lleihau aildroseddu gan blant a phobl ifanc
  • anogaeth i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau cymdeithasol.