Ynghylch yr etholiadau
Crëwyd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, gyda’r Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu cyntaf yn cael eu cynnal ar 15 Tachwedd 2012.
Cafwyd etholiadau hefyd ym Mai 2016 a bydd yr Etholiadau CHTh nesaf ar 6 Mai 2021. Bydd yr Etholiadau CHTh yn cael eu cynnal mewn 40 o ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr (ar wahân i’r rhai yn Llundain a Manceinion). Mae gan bob ardal un Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer ei hardal heddlu.
Mae pedair ardal heddlu yng Nghymru, gyda phob un yn ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Dyma’r pedair ardal heddlu yng Nghymru:
-
Dyfed Powys
-
Gwent
-
Gogledd Cymru
-
De Cymru
Mae 7 ardal bleidleisio yn rhan o Ardal Heddlu De Cymru:
-
Pen-y-bont ar Ogwr
-
Caerdydd
-
Merthyr Tudful
-
Castell-nedd Port Talbot
-
Rhonda Cynon Taf
-
Abertawe
-
Bro Morgannwg
Mae Swyddog Canlyniadau wedi ei benodi ar gyfer pob un o’r ardaloedd pleidleisio uchod.
Debbie Marles yw Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu De Cymru ar gyfer Etholiadau 6 Mai 2021, a hi sy’n gyfrifol am y ffordd y caiff yr etholiad CHTh ei gynnal, gan gynnwys:
-
cydgysylltu gyda Swyddogion Canlyniadau Lleol yn ardal heddlu De Cymru
-
cyhoeddi Hysbysiad ynghylch yr Etholiad
-
y weithdrefn enwebu
-
hybu cyfranogiad
-
sicrhau bod cynnwys areithiau etholiadol a gweithdrefnau cyflwyno’r anerchiadau hyn yn cydymffurfio â’r gofynion
-
coladu cyfansymiau lleol a chyfrifo’r canlyniad
-
datganiad y canlyniad
Mae’r Swyddog Canlyniadau Lleol yn gyfrifol yn ei ardal bleidleisio am:
-
sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu’n effeithiol
-
darpariaethau’r gorsafoedd pleidleisio
-
argraffu papurau pleidleisio
-
y ffordd y mae’r etholiad yn cael ei gynnal
-
penodi staff gorsafoedd pleidleisio
-
rheoli’r broses bleidleisio drwy’r post
-
y dilysu a’r cyfrif yn eu hardal bleidleisio
-
trosglwyddo’r cyfansymiau lleol i Swyddog Canlyniadau’r Ardal Heddlu
Dilysu a Chyfrif
Bydd proses ddilysu a chyfrif y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael ei chynnal mewn canolfannau cyfrif lleol gyda’r Ganolfan Ranbarthol yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo, 7 Gladstone Road, Y Barri, CF62 8NA lle y datgelir canlyniad terfynol yr etholiad. Mae'r broses sydd i'w dilyn yn gofyn am ddatganiadau lleol o'r canlyniad ym mhob ardal etholaeth ac yna’r canlyniad cyffredinol ar gyfer Ardal Heddlu De Cymru.
Bydd dau leoliad cyfrif:
Canolfan Gelfyddydau’r Memo
Gladstone Road
Y Barri
CF62 8NA
Canolfan Hamdden y Barri
Greenwood Street
Y Barri
CF63 4JJ
Bydd y broses o ddilysu Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn dechrau o 9.00am Ddydd Gwener 07 Mai 2021. Bydd y cyfrif yn cychwyn o 9.30am Ddydd Sul 09 Mai 2021.
Lleoliadau Dilysu a Chyfrif
Amserlen Dilysu a Chyfrif
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl y Comisiwn Heddlu a Throseddu gweler www.southwalescommissioner.org.uk/cy/