Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rhaid i’r Maer fod yn aelod etholedig o’r Cyngor.
Caiff ei ethol i’w rôl yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai a bydd yn cyflawni’r rôl tan fis Mai’r flwyddyn ganlynol.
Mae’r Maer a’r Faeres yn gwisgo eu cadwyni swydd wrth fynd i ddigwyddiadau ar ran y Cyngor.
Mae Maer Bro Morgannwg yn cynrychioli’r Cyngor mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau dinesig a chymunedol drwy gydol y flwyddyn. Os hoffech i’r Maer fynychu eich digwyddiad, llenwch y ffurflen gais isod, os gwelwch yn dda.
Ffurflen Gais
Fy enw i yw Carys Stallard. Dw i’n byw yng ngorllewin Bro Morgannwg ers dros ugain mlynedd ac wedi magu teulu yma. Fel cynghorydd, mae’n fraint cael cynrychiolu fy nghymuned, ar y cyd gyda’r cynghorydd Jo Protheroe.
Fel maer, byddaf yn gwneud fy ngorau i gyrraedd pob cornel o Fro Morgannwg, gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gymaint â phosib – mae trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn bwysig iawn i mi. Mae chwaraeon i fenywod ymhlith fy niddordebau hefyd. A byddaf yn canolbwyntio eleni eto ar ddathlu ein gwirfoddolwyr godidog sy’n cyfrannu cymaint at greu cymunedau cryf.
Dw i’n dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ac fe’m magwyd ar aelwyd Gymraeg ei hiaith.
Hyfforddais fel newyddiadurwr a bûm yn gweithio i BBC Cymru yng Nghaerdydd (wedi cyfnod byr yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Addysg Agored Heol Holton yn y Barri, yn addysgu Saesneg fel ail iaith).
Arfbais y Fro
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Sefydliad y Maer
Cwestiynau Cyffredin
Cyn Feiri