Cost of Living Support Icon

Y Maer

Swyddogaethau a chyfrifoldebau Maer Bro Morgannwg, ei elusennau dethol a gwybodaeth am ddeiliad y swydd

 

Rhaid i’r Maer fod yn aelod etholedig o’r Cyngor.

 

Caiff ei ethol i’w rôl yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai a bydd yn cyflawni’r rôl tan fis Mai’r flwyddyn ganlynol.

 

Mae’r Maer a’r Faeres yn gwisgo eu cadwyni swydd wrth fynd i ddigwyddiadau ar ran y Cyngor.

 

Image-101 (002)

2023/24

Y Cynghorydd Julie Aviet

Wedi'i eni yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Singapôr, mynychodd y Cynghorydd Julie Aviet yr ysgol yn Ysgol Sant Pedr ac yna Ysgol Uwchradd yr Arglwyddes Fair ac Ysgol Uwchradd Howardian yng Nghaerdydd nes ymgartrefu yn y Barri, Bro Morgannwg gyda'i theulu, tri o blant ac wyrion erbyn hyn.  Mae'r Cynghorydd Aviet yn ymfalchïo ei bod yn Hyrwyddwr Amrywiaeth y Cyngor. 

 

Mae hi wedi cwblhau ystod eang o swyddi drwy gydol ei bywyd gwaith, gan gynnwys teleffonydd, gweithio mewn siop adrannau, gweithio yn Butlins Minehead ac yna ymlaen i Bournemouth yn ystod tywydd poeth 1976.  Yna symudodd yn ôl i Gaerdydd a gweithio mewn clybiau nos fel "Top Rank" ac yn Sbaen a Llundain.  Tra yn Llundain cwblhaodd ei hyfforddiant gwaith coed ac yna aeth i Goleg Adeilad Vauxhall lle derbyniodd ei City & Guilds mewn Gwaith Coed ac Saer.  Ar ôl hynny, cafodd waith fel saer cynnal a chadw gyda Bwrdeistref Llundain Southwark.

 

Yn y pen draw, dychwelodd i Gaerdydd i fagu ei thri phlentyn, a symudodd y Cynghorydd Aviet i'r Barri ym 1999.  Roedd hi'n mwynhau cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol fel ymgysylltu â thenantiaid ac aeth ymlaen i fod yn rhan o Fwrdd Preswylwyr Gibbonsdown.  Mae'n un o ymddiriedolwyr Canolfan Blant Gibbonsdown ac yn Llywodraethwr Ysgolion Cynradd Oakfield a Colcot yn y Barri ac mae hi bob amser yn mwynhau bod yn rhan o'i chymuned leol.  Enghraifft o wirfoddoli yw casglu sbwriel lleol gyda phobl ifanc i helpu gyda'r prosiect "Gwerth yn y Fro".  Y prosiect hwn yw lle gall plant gymryd rhan ac ennill credydau amser.

 

Ers cael ei hethol yn 2016 mae'r Cynghorydd Aviet wrth ei bodd yn bod yng nghanol ei chymuned leol.

 

Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, mae hi'n dweud,

"Hoffwn helpu i hyrwyddo ymdeimlad o falchder ledled Bro Morgannwg ynghyd ag empathi tuag at eraill, gan greu Bro fwy cydlynus i ddod â phob cymuned o'r dwyrain i'r gorllewin at ei gilydd a'n huno yn ein nod cyffredin sy'n ymdrechu i wneud Bro Morgannwg yn lle gwell i fyw a gweithio."

 

 

 

 

  • A oes gwahaniaeth rhwng Maer ac Arglwydd Faer?
    Mae gan ddinasoedd Arglwydd Faer; mae gan gynghorau fel Bro Morgannwg Faer.
  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Maeres a Chymdaith?

    Mae’r Maer a’r Dirprwy Faer yn penodi eu cymdeithion eu hunain. Maent yn dewis naill ai eu gŵr neu eu gwraig, partner, mab, merch neu ffrind. Os yw’r cymdeithion yn wragedd, cyfeirir atynt fel y Faeres neu’r Dirprwy Faeres.

     

    Os dewisir gŵr, brawd neu chwaer, gelwir nhw yn Gydweddog neu’n Ddirprwy Gydweddog.

  • Oes hawl gan y Maer gadw ei gar?  

    Nac oes. Un car a ddefnyddir gan y Maer a’r Dirprwy Faer. Nid yw'r Maer yn gyrru'r car ei hun, ond gyrrwr. Mae gan Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr hawl i ddefnyddio’r car dinesig yn ogystal. 

  • Pa mor brysur yw’r Maer?

    Mae llwyth gwaith y Maer amrywio o un flwyddyn i’r llall, yn dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd ym Mro Morgannwg yn ystod tymor y Maer. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Meiri wedi ymgymryd â dros 550 o ymrwymiadau yn gyson bob blwyddyn. Mae ‘ymrwymiadau’ yn cynnwys mynychu cyfarfodydd, cadeirio cyfarfodydd y Cyngor llawn, cyfarfodydd pwyllgor elusennol, digwyddiadau elusennol, agor arddangosfeydd ac ati. 

  • Sut caiff Maer ei ddewis? 

    Mae’r Maer wastad yn aelod o’r cyngor, a fer arfer, bydd wedi cyflawni cyfnod hir o wasanaeth. Gwahoddir ef neu hi i sefyll gan gyd-weithwyr o’u plaid wleidyddol eu hun. Fel arfer, bydd wedi bod yn Ddirprwy Faer y flwyddyn flaenorol.

     

    Cynhelir pleidlais i ethol Maer newydd yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol y Cyngor, a gynhelir yn draddodiadol ym mis Mai. 

     

    Pan geir mwyafrif clir yn y Cyngor, gall yr ymgeisydd ddisgwyl cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Fodd bynnag, os yw’r Cyngor yn un grog, gall fod mwy nag un ymgeisydd yr un ar gyfer swydd y Maer a’r Dirprwy Faer, a gall canlyniad yr etholiad fod yn agos iawn.

  • A all Maer fod yn ddeiliad y swydd fwy nag unwaith?
    Gall, ond fel arfer, ni all arddel y teitl ‘Maer’ am fwy nag un flwyddyn yn y swydd.  

  • Ai'r Maer sy'n rhedeg y Cyngor?

    Swyddogaeth anwleidyddol ac anweithredol sydd gan Faer Cyngor Bro Morgannwg. Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet sy’n ben ar Gyngor Bro Morgannwg, ac mae pwyllgorau craffu’n monitro penderfyniadau’r Cabinet yn drylwyr.

     

    Mae’r Maer yn cadeirio cyfarfodydd y Cyngor ac yn sicrhau pob pob eitem ar yr agenda’n cael ei drafod mewn modd cydradd.

     

    Nid yw’r Maer yn siarad am faterion penodol yn ystod cyfarfodydd llawn y cyngor fel rheol, gan fod angen iddo fod yn ddiduedd. Ganddo ef neu hi mae’r bleidlais fwrw, fodd bynnag, petai angen ei defnyddio. 

  • Ydy'r Maer yn ennill llawer o arian?

    Mae pob cynghorydd yn derbyn lwfans sylfaenol, ond mae’r Maer yn derbyn lwfans ychwanegol arbennig a bennir gan y Cyngor i alluogi i’r Maer/Dirprwy Faer gyflawni ei ddyletswyddau ychwanegol. 

  • Pa bryd mae'r Maer yn gwisgo cadwyn y swydd?

    Mae’r Maer bob amser yn gwisgo cadwyn y swydd pan fydd ar fusnes swyddogol, oni bai y gofynnir yn benodol iddo beidio â gwneud.

     

    Mae’r Dirprwy Faer yn gwisgo ei chadwyn pan fydd hi’n cynrychioli’r Maer.