Cost of Living Support Icon

Rhyddid Anrhydeddus a Rhyddid Mynediad

Yr anrhydedd mwyaf y gall Cyngor ei roi i berson sydd, yn eu barn nhw, wedi rhoi gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r ddinas neu fwrdeistref yw braint y Rhyddfreiniwr Anrhydeddus.

 

Rhaid i ddwy draean aelodau’r Cyngor basio cynnig er mwyn caniatáu braint y Rhyddfreiniwr Anrhydeddus, ond nid yw hyn yn golygu bod unrhyw hawliau ganddynt.
 
Byddai’r cynnig yn nodi rhesymau penodol y Cyngor dros benderfynu rhoi’r fraint ac yn cynnwys manylion y gwasanaeth cyhoeddus a gyflawnwyd gan y sawl a fyddai’n ei derbyn. Mewn ambell achos caiff y cynnig rhyddfreinio ei basio mewn cyfarfod arbennig y Cyngor a bydd y cyflwyniad ffurfiol yn digwydd mewn seremoni arbennig yn ddiweddarach. 
 
Caiff y Rhyddfreiniwr newydd dyngu'r Llw Rhyddfreiniol ac arwyddo’r Rhôl Rhyddfreiniol, a bydd y Maer a’r Rheolwr Gyfarwyddwr dystion.
 
Yn gysylltiedig â Rhyddfraint y Fwrdeistref y mae Rhyddid Mynediad, a roddir i unedau Lluoedd Ei Mawrhydi sydd wedi cwblhau gwasanaeth nodedig ac sy’n gysylltiedig â’r ddinas neu’r Fwrdeistref. 
 
Caiff cynnig ffurfiol angenrheidiol y Cyngor ei basio mewn cyfarfod arbennig a chyflwynir y “rhyddid” yn ffurfiol mewn seremoni arbennig. Mae rhoi’r rhyddid yn rhoi modd parchus a derbyniol o anrhydeddu’r uned a chaniatáu iddynt orymdeithio drwy strydoedd tref gyda’u bidogau yn barod, eu drymiau’n taro a’u baneri’n chwifio.

 

  •  1974 - RAF Sain Tathan

    Ar 22 Ebrill 1974 penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg, wrth arfer ei rymoedd yn unol ag adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972, urddo Prif Swyddog, Swyddogion a Rhengoedd eraill llu Awyr Brenhinol Sain Tathan, â theitl, anrhydedd a chlod Rhyddid y Fwrdeistref a'u cynnwys ar y cyd yn Rhyddfreinwyr Anrhydeddus y Fwrdeistref fel cydnabyddiaeth ddiolchgar a gwerthfawrogiad o wasanaeth arwrol y llu Awyr i’r genedl yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’r cymorth cyfeillgar a’r cydweithrediad a roddwyd ers sefydlu’r orsaf i gymunedau Bro Morgannwg, ac am ymdrechion didwyll yr Orsaf yn cefnogi sefydliadau elusennol milwrol a chyhoeddus.
     
    Ar 18 Mai 1974 urddwyd Comodor yr Awyrlu SM Davidson CBE yn ffurfiol â Rhyddfraint Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg gan y Maer Siartredig, y Cynghorydd Brinley Williams, yng Ngorsaf y Llu Awyr Brenhinol yn Sain Tathan.

     

    Gweld y Rhôl Ryddid

  •  1976 - Syr Raymond Gower AS
    1 Tachwedd 1976 - penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg wrth arfer ei bwerau yn unol ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1972, dderbyn Syr Raymond Gower, swyddog yng Ngoruchaf Lys ei Mawrhydi ac Aelod Seneddol dros etholaeth y Barri, a pherson a gyfrannodd wasanaeth clodwiw i’r fwrdeistref uchod, i fod yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus.
     
    Derbyniwyd Syr Raymond Gower yn ffurfiol fel Rhyddfreiniwr y Fwrdeistref gan y Maer a’r Cynghorydd Percy Chapple, mewn cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 1977.
  • 1984 - Syr Cennydd Traherne KG
    Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg, wrth arfer ei rymoedd yn unol ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1982, dderbyn Syr Cennydd Treharne KG, Arglwydd Raglaw Siroedd Morgannwg, a fu gynt yn Rhaglaw ei Mawrhydi dros Forgannwg, fel person a gyfrannodd wasanaeth clodwiw i’r Fwrdeistref uchod i fod yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus.
     
    Derbyniwyd Syr Raymond Gower yn ffurfiol fel Rhyddfreiniwr y Fwrdeistref gan y Maer a’r Cynghorydd Percy Chapple, mewn cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 1984.
  •  1984 - Syr Hugo Boothby, Bt

    Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg, wrth arfer ei rymoedd yn unol ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1982, dderbyn Syr Hugo Boothby, Bt, a fu gynt yn Ddirprwy Raglaw ei Mawrhydi dros Forgannwg, Uchel Siryf Morgannwg a Rhaglaw Ei Mawrhydi dros Dde Morgannwg fel person a gyfrannodd wasanaeth clodwiw i’r Fwrdeistref uchod i fod yn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus.
     
    Derbyniwyd Syr Hugo Boothby, Bt yn ffurfiol fel Rhyddfreiniwr y Fwrdeistref gan y Maer a’r Cynghorydd Cyril D Lakin, mewn cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth.

  •  1991- Mrs Susan Eva Williams MBE

    Penderfynodd cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg wrth arfer ei rymoedd yn unol ag Adran 249 Deddf Llywodraeth Leol 1982, dderbyn Mrs Susan Eva Williams MBE DStJ YH, a fu gynt yn Arglwydd Raglaw dros dde Morgannwg, Ddirprwy Raglaw ei Mawrhydi dros Dde Morgannwg ac Uchel Siryf De Morgannwg fel person a gyfrannodd wasanaeth clodwiw i’r Fwrdeistref uchod i fod yn Rhyddfreinwraig Anrhydeddus.
     
    Derbyniwyd Mrs Susan Eva Williams MBE DStJ YH yn ffurfiol fel Rhyddfreinwraig y Fwrdeistref gan y Maer a’r Cynghorydd H J W James, mewn cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 1991.

  •  2004 – Cymdeithas y Llynges Fasnachol

    Ar 28 Ebrill 2004, penderfynodd Cyngor Bro Morgannwg roi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i Gymdeithas y Llynges Fasnachol (Cymru) fel cydnabyddiaeth i’r dynion wasanaethodd yn y Llynges Fasnachol ac am eu gwasanaeth yn ystod y ddau Ryfel Byd. 
     
    Cyflwynwyd Rhyddfraint y fwrdeistref Sirol yn ffurfiol mewn seremoni yn y Barri ar 16 Ebrill 2005 dan lywyddiaeth y Maer, Emlyn Williams.

     

    Gweld y Rhôl Ryddid

  •  2004 – Y Gwarchodlu Cymreig

    Ar 28 Ebrill 2004, penderfynodd Cyngor Bro Morgannwg roi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i’r Gwarchodlu Cymreig fel cydnabyddiaeth o’r gwasanaeth a roddwyd i’w Gwlad ers ffurfio’r Gwarchodlu Cymreig ym 1915 ac am y cysylltiadau agos sy’n datblygu ac a fydd yn datblygu ar sail y ffaith bod y Gwarchodlu Cymreig wedi ei leoli yn y Fwrdeistref Sirol.
     
    Cyflwynwyd Rhyddfraint y fwrdeistref Sirol yn ffurfiol mewn seremoni yn y Barri ar 16 Mawrth 2006. Cyflwynodd y Maer, y Cynghorydd Margaret Alexander, sgrôl rhyddid i’r Cadfridog Lefftenant Ben Bathurst, Pennaeth Milwrol Bataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig.

     

    View Photographs     View Scroll

  •  2008 - Y Cymry Brenhinol

    Ddydd Sadwrn 21 Chwefror 2009, urddwyd Y Cymry Brenhinol â rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol gan Faer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Audrey Preston. Dan arweiniad y Prif Uwch Gapten David Joseph a Shenkin yr afr, gorymdeithiodd y gatrawd i gyfeiliant Gwŷr Harlech i Sgwâr y Brenin, y Barri. 
     
    Cynigiwyd y rhyddfraint gan y Maer drwy ddarllen o’r rhôl, dywedodd. Drwy hyn mae’r Cyngor yn urddo’r Cymry Brenhinol â rhyddid mynediad i Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, a chan hynny braint, anrhydedd a chlod cael gorymdeithio drwy strydoedd y Fwrdeistref Sirol.
     
    Yn dilyn gweddi gan gaplan y Maer, y Parch Moira Spence, dywedodd y Cadfridog Peter Gooderson “Mae gwŷr y Fro wedi gwasanaethu am dros 300 mlynedd yn y catrodau a fu o’n blaenau. Amlygir ymroddiad Y Barri a’r Fro i wasanaethu gan y Neuadd Goffa yma yn y Barri a’r gofeb yn y Bont-faen, i enwi ond dau. Mae’r cysylltiadau hyn yn golygu bod Rhyddfraint y Fro yn golygu llawer mwy na gorymdaith a rhôl i ni. Mae’n fraint ac anrhydedd am ei fod yn dangos bod un o’r cymunedau yr ydym ni’n ei werthfawrogi fwyaf, yn ein gwerthfawrogi ninnau. Alla i ddim pwysleisio cymaint y mae’n ei olygu i filwyr yn gwasanaethu dramor fod pobl gartref yn eu cefnogi nhw.
     
    Yn dilyn rhoi’r Rhôl Rhyddid a chwarae’r Anthem Genedlaethol, arferodd y gatrawd ei hawl a gorymdeithio drwy’r dref.

    Y Cymry Brenhinol

    Mae’r Cymry Brenhinol yn gatrawd newydd, a ffurfiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006. Cafodd ei ffurfio drwy uno dwy gatrawd o filwyr. Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chatrawd Frenhinol Cymru. Mae’r Bataliwn Cyntaf, yn dilyn dwy flynedd o wasanaeth yng Nghyprus (a oedd yn cynnwys cyrchoedd i Iraq ac Afghanistan) bellach wedi ymsefydlu mewn barics yng Nghaer a bydd yn gadael am Afghanistan drachefn yn ddiweddarach eleni.
     
    Mae’r Ail Fataliwn, a gynrychiolodd y Cymry Brenhinol yn y seremoni ryddid, wedi ei lleoli mewn barics newydd yn Tidworth a dychwelodd o’i drydydd cyrch yn Iraq ar ddiwedd 2007. Mae gan y Trydydd Bataliwn ganolfannau ledled Cymru ac mae wedi anfon milwyr Byddin y Tiriogaethwyr i'r ddau faes y gad i gefnogi'r Bataliynau rheolaidd.

     

    www.theroyalwelsh.org.uk     View the Freedom Scroll     Photographs of the day

  •  2010 - Ysbyty Mae Cymru
    Ddydd Sadwrn 17 Ebrill 2010 rhoddwyd rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol gan Faer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Emlyn Williams, i 203 Ysbyty Maes Cymru (Gwirfoddolwyr). Gorymdeithiodd yr uned dan arweiniad Band y Gwarchodlu Brenhinol Cymreig i Sgwâr y Brenin, y Barri. Cyn rhoi’r rhyddfraint, bu’r Maer a’r Arglwydd Raglaw, Dr Peter Beck, yn archwilio a sgwrsio â’r gwirfoddolwyr.
     
    Dywedodd y Cynghorydd Williams “Rwy’n falch ein bod ni’n gallu cydnabod yr uned a’r gwaith gwerthfawr maen nhw yn ei wneud gartref a thramor. Mae gan nifer o filwyr dewr, a anafwyd yn ddifrifol mewn sefyllfaoedd o wrthdaro, ddyled i uned fel y Medics Cymreig am y driniaeth wych a achubodd eu bywydau. Maen nhw’n parhau i beryglu eu bywydau er mwyn achub eraill.”
     
    Dywedodd pennaeth milwrol yr uned, y Cadfridog Kevin Davies “Mae Cyngor y Fro wedi dangos ei werthfawrogiad a’i gydnabyddiaeth o’r cyfraniad sylweddol y mae Ysbyty Maes Cymru yn ei wneud yn cefnogi gweithrediadau’r DU. Mae cydnabyddiaeth y Cyngor yn newydd gwych ar rydyn ni yn 203 yn edrych ymlaen yn fawr at dderbyn yr hawl i orymdeithio drwy’r Barri.

    203 Ysbyty Maes Cymru (Gwirfoddolwyr)
    Dyma unig uned feddygol y Fyddin Diriogaethol yng Nghymru, ac mae ei staff i gyd yn wirfoddolwyr rhan-amser. Maent yn recriwtio gweithwyr iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru ac o bob disgyblaeth - meddygon, nyrsys, parafeddygon, radiograffwyr, ffisiotherapyddion, gwyddonwyr biofeddygol, deintyddion, nyrsys deintyddol, technegwyr fferyllfeydd, fferyllwyr a gweithwyr cymorth gofal iechyd.
     
    Gan olrhain ei wreiddiau yn ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr ysbyty yng Nghaerdydd a chanddi isadrannau yn Abertawe, Crughywel a Llandudno. Mewn cyfnodau diweddar mae wedi anfon staff i gefnogi cyrchoedd dramor yn ystod rhyfeloedd y Gwlff, gwledydd y Balcan a’r cyrchoedd sy’n parhau yn Irac ac Affganistan.

     

    Yn dilyn rhoi’r Rhôl Rhyddid a chwarae’r Anthem Genedlaethol, arferodd y gatrawd ei hawl a gorymdeithio drwy’r dref.

     

    Gweld y sioe sleidiau     Gweld y Rhôl Ryddid

  •  2012 - HMS Cambria

    Ddydd Sadwrn 31 Mawrth 2012 urddwyd cwmni llong yr HMS Cambria â rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol gan Gyngor Bro Morgannwg. Byddant yn rhoi’r rhyddid ar waith gyda seremoni a gorymdaith trwy dref Y Barri.
     
    Comisiynwyd HMS Cambria ym 1947 ac yn wreiddiol roedd yn Nociau Caerdydd. Agorwyd yr adeiladau presennol yn Sili, sef yr hen Adeiladau i Aelodau Priod, ar 15 Hydref 1980, gan roi cychwyn ar berthynas werthfawr gyda Bro Morgannwg. Tan 1993, prif swyddogaeth weithredol yr HMS Cambria oedd gweithredu a staffio llongau sgubo ffrwydron.
    O 1984 tan ei werthu ym 1993, bu Cambria yn gweithredu’r Llong Sgubo Ffrwydron Dosbarth Afonydd, yr HMS Waveney, oedd yn olygfa gyffredin yn Nociau’r Barri drwy gydol y cyfnod.
     
    Ers 1993, mae swyddogaeth Lluoedd Wrth Gefn y Llynges Frenhinol wedi profi newid mawr. Mae’r newid yma wedi bod yn fwy amlwg ers 2003, ac mae nifer o luoedd wrth gefn y Cambria wedi bod ar gyrchoedd yn Irac ac Affganistan, Sierra Leone a Gwledydd y Balcan. Ynghyd â lleoliadau ar longau’r Morlu Brenhinol a’r Llynges Frenhinol Gynorthwyol a lleoliadau ar dir sych, mae 25% o gwmni’r llong wedi bod ar waith gyda’r Llynges frenhinol yn barhaus ers 2003.
     
    Mae nifer o wirfoddolwyr wrth gefn wedi eu recriwtio o bob cwr o Dde Cymru a Bro Morgannwg. Dywed Pennaeth presennol yr HMS Cambria, yr Is-Gapten Neil Pugh, “Mae’n destun balchder mawr bod y llu Wrth Gefn yn gallu gwasanaethu yn ac ar gyfer y Sir sy’n gartref iddynt ac rydym yn falch o dderbyn yr anrhydedd hon.”
     
    Dywedodd Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd John Clifford, “Mae hwn yn gam pwysig yn y berthynas agos rhwng Cyngor Bro Morgannwg a HMS Cambria ac yn gydnabyddiaeth o wasanaeth y Lluoedd wrth gefn presennol a rhai’r gorffennol.”

     

    Gweld y lluniau     Gweld y Rhôl Ryddid