Cost of Living Support Icon

Rôl a chyfrifoldebau'r Maer

Rhaid i'r Maer fod yn aelod etholedig i'r Cyngor. Caiff ei ethol i'w swydd yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai, ac mae ei dymor yn para tan fis Mai'r flwyddyn ganlynol.

 

Mae'r Maer a'r Faeres yn gwisgo'u cadwyni swyddgol pan fyddan nhw'n mynychu digwyddiadau ar ran y Cyngor.

 

Rôl drefniadol y Maer ydy llywyddu prif gyfarfodydd y Cyngor a gynhelir pedair gwaith y flwyddyn. Os nad ydy e'n bresennol yn un o'r cyfarfodydd Cyngor yma, rhaid i'r Dirprwy Faer lywyddu. Manylir ar ddyletswyddau'r Maer mewn cyfarfodydd Cyngor yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 ac maent yn cynnwys y gofyn i ddefnyddio ail bleidlais neu bleidlais fwrw pan fo angen.

 

Mae gan y Maer rôl seremonïol lle mae'n gweithredu fel llysgennad i'r Cyngor. Mae'n cynrychioli'r Cyngor mewn:

  • Seremonïau dinesig
  • Ymweliadau brenhinol
  • Digwyddiadau sy'n ymwneud â'n gefeilldrefi – Mouscron yng Ngwlad Belg, Fécamp yn Ffrainc a Rheinfelden yn Yr Almaen
  • Digwyddiadau ar gyfer sefydliadau elusennol a gwirfoddol
  • Digwyddiadau sy'n cydnabod cyraeddiadau staff cyngor a thrigolion Bro Morgannwg

 

Rôl y Faeres / Cydweddog ydy cefnogi'r Maer yn ystod ei flwyddyn / blwyddyn o ddyletswydd. Mae'n arferol i'r Faeres / Cydweddog dderbyn yr un flaenoriaeth â'r Maer.

 

Caiff Dirprwy Faer ei ethol i'w swydd ar yr un pryd, ac mae hefyd yn treulio blwyddyn yn y swydd. Bydd ef neu hi'n dirprwyo dros y Maer pan fo angen. Mae'r Dirprwy Faer a'r Dirprwy Faeres / Cydweddog yn gwisgo'u cadwyni swyddogol pan fyddan nhw'n cynrychioli'r Maer.

 

Yn absenoldeb y Maer, mae gan y Dirprwy Faer hawl i drefn flaenoriaeth y Maer yn yr ardal, er nad oes gan y Dirprwy Faer hawl i wisgo'r fantell. Ni ddylid anfon gwahoddiadau i ddigwyddiadau at y Dirprwy Faer. Ni ddylai'r Dirprwy Faer fynychu digwyddiad ar ei ran ef / ei rhan hi, ond i gynrychioli'r Maer yn unig. Dylid anfon pob gwahoddiad at ystyriaeth y Maer fel Prif Ddinesydd, ac os yw'n addas, gall y Maer drosglwyddo'r gwahoddiad. Mae'r Dirprwy Faer dim ond yn gwisgo'i gadwyn swyddogol pan fo'n dirprwyo dros y Maer, ac eithrio mynychu cyfarfodydd y Cyngor.