9. Pwy sy'n gyfrifol am eich gwybodaeth?
Mae'r Cyngor yn Rheolydd Data ac mae hyn yn golygu ei fod yn gyfrifol am sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio'n deg, yn cael ei chadw'n ddiogel a'i thrin yn unol â'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth y mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn ei chadw amdanoch chi. Mae gan y Cyngor Swyddog Diogelu Data sef y swyddog dynodedig sydd â chyfrifoldeb yn y Cyngor am sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac yn cael ei defnyddio'n gywir. Mae gan y Cyngor dîm o swyddogion sy'n helpu'r Swyddog Diogelu Data. Y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yw’r tîm hwn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych am ddefnyddio eich hawliau diogelu data, neu os nad ydych yn hapus am y ffordd y mae’n cael ei defnyddio, gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data a/neu'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth drwy e-bost i:
DPO@valeofglamorgan.gov.uk
neu drwy ysgrifennu at:
Y Swyddog Diogelu Data,
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth,
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd,
Swyddfeydd Dinesig Heol Holltwn,
Y Barri,
Bro Morgannwg,
CF63 4RU
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw corff annibynnol y DU a sefydlwyd i gynnal eich hawliau gwybodaeth dan GDPR y DU a/neu'r Ddeddf Diogelu Data.
Os hoffech chi ddysgu mwy am eich hawliau dan y gyfraith Diogelu Data, a'r hyn y dylem fod yn ei wneud, ewch i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth:
Gwefan ICO
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'n harferion preifatrwydd neu am arfer eich hawliau Diogelu Data, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, mae ei manylion isod. Fodd bynnag, byddem yn gofyn i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf, gan efallai y bydd modd i ni ddatrys eich pryderon. Hoffem glywed gennych hefyd os oes unrhyw beth ynglŷn â sut mae eich gwybodaeth yn cael ei thrin nad ydych yn hapus gydag ef gan ei fod yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cynnal ein safonau:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF
Rhif Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk