Cost of Living Support Icon

Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor. Mae eich preifatrwydd yn bwysig!

 

Beth yw hysbysiad preifatrwydd? Beth yw diben hyn i gyd? 

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae hysbysiad preifatrwydd yn egluro sut rydym yn rheoli gwybodaeth bersonol (gelwir hefyd yn ddata personol) amdanoch chi a sut rydym yn amddiffyn eich preifatrwydd. Mae’n egluro sut y gallwch weld eich gwybodaeth, yr hawliau sydd gennych mewn cysylltiad â gwybodaeth a sut i arfer yr hawliau hynny.

 

Dyma brif hysbysiad preifatrwydd y Cyngor, bydd gan rai meysydd gwasanaeth hysbysiadau preifatrwydd sy'n benodol i'r wybodaeth sydd ganddynt ac os oes, byddant yn dweud wrthych. 

 

Mae’r Cyngor yn prosesu data personol yn ddyddiol.  Data personol yw gwybodaeth sy'n gallu eich adnabod ac sy'n bersonol i chi, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dewisiadau cysylltu, rhif y GIG, rhif Yswiriant Gwladol, gwybodaeth ariannol, manylion am eich ffordd o fyw, cyflogaeth neu hobïau. 

 

Mae’r Cyngor yn prosesu data personol sensitif yn ddyddiol hefyd. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, iechyd corfforol, ffisiolegol a meddyliol, cyfeiriadedd rhywiol, cofnodion meddygol, gwybodaeth fiometrig, gwybodaeth am p’un a ydych mewn undeb llafur ai peidio a chredoau crefyddol neu athronyddol. 

 

Enghreifftiau yn unig yw’r uchod o ddata personol a data personol sensitif.

 

Mae'r Cyngor yn darparu nifer sylweddol o wasanaethau a chymorth i ddinasyddion ym Mro Morgannwg.  Mae'r Cyngor yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol a/neu bersonol sensitif i weithredu'n effeithiol ac i ddarparu cymorth a gwasanaethau ar draws nifer amrywiol o feysydd.  Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyfloges presennol, cyn-gyflogeion a darpar gyflogeion, dinasyddion, Aelodau, cyflenwyr, cleientiaid / cwsmeriaid, trigolion, tenantiaid, partneriaid, a phobl eraill y mae’n cyfathrebu â nhw.

 

Mae'r Cyngor yn rhannu eich gwybodaeth bersonol weithiau ag eraill y tu allan i'r Cyngor megis y GIG, yr heddlu, yr Adran Gwaith a Phensiynau, CThEF, sefydliadau sector cyhoeddus eraill a sefydliadau preifat.  Dim ond pan ganiateir hynny’n gyfreithiol y bydd y Cyngor yn rhannu eich gwybodaeth. Bydd y Cyngor yn cymryd camau i geisio sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu'n ddiogel. 

 

Mae gweddill y dudalen hon yn esbonio'n fanwl beth mae hyn yn ei olygu.

 

Y data personol sydd gennym a sut rydym yn cael gafael arno?

Mae'r mathau o ddata personol y mae'r Cyngor yn eu cadw a'u prosesu amdanoch wedi'u nodi uchod fel trosolwg ond i esbonio’n fanylach, gall gynnwys:

 

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost. 
  • Manylion adnabod, gan gynnwys dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol a rhifau cyflogai ac aelodaeth.
  • Gwybodaeth a ddefnyddir i gyfrifo ac asesu cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau.
  • Gwybodaeth ariannol sy’n berthnasol i gyfrifo neu dalu buddion, er enghraifft, cyfrif banc a manylion treth.  
  • Gwybodaeth am eich teulu, eich dibynyddion neu eich amgylchiadau personol, lle bo’i hangen gan wasanaeth perthnasol.
  • Gwybodaeth am eich iechyd lle bo’i hangen gan wasanaeth perthnasol fel Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Gwybodaeth am gollfarnau troseddol lle bo hynny'n berthnasol. 

Sylwch y gall y Cyngor gael gwybodaeth yn uniongyrchol gennych chi neu gan sefydliadau eraill fel Ysgolion, y GIG, elusennau, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr heddlu, CThEF, neu ffrindiau a theulu neu gymdogion neu Gynghorwyr. 

 

Dylech hefyd fod yn ofalus, os ydych chi'n rhoi gwybodaeth bersonol ar ran eraill, eich bod wedi dweud wrthyn nhw y byddwch yn rhannu eu gwybodaeth â’r Cyngor.  

Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol

 

Efallai y bydd y Cyngor yn prosesu eich data personol i gyflawni ei rwymedigaethau, a gall hyn gynnwys prosesu eich data personol at yr holl ddibenion canlynol neu unrhyw rai:

  • i gysylltu â chi 
  • asesu cymhwysedd ar gyfer ein gwasanaethau gan gynnwys cyfrifo budd-daliadau a’u rhoi i chi. 
  • i nodi eich opsiynau budd-daliadau posibl neu wirioneddol. 
  • at ddibenion ystadegol a chyfeirio. 
  • i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol. 
  • i ateb ymholiadau gennych chi ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosibl sy'n ymwneud â chi. 
  • I roi mynediad i chi at Wasanaethau'r Cyngor a/neu sicrhau eich bod yn derbyn Gwasanaethau i'ch cynorthwyo.
  • Cyflogaeth.

 

Nid yw'r rhestr uchod wedi'i chyfyngu i'r enghreifftiau hyn. 

 

O bryd i’w gilydd bydd y Cyngor yn rhannu eich data personol â sefydliadau partner a darparwyr gwasanaeth fel y gallant helpu’r Cyngor i gynnal ei ddyletswyddau, hawliau a disgresiynau mewn cysylltiad â’r gwasanaethau a ddarperir. Bydd rhai o'r sefydliadau hynny yn prosesu eich data personol ar ran y Cyngor ac yn unol â cheisiadau'r Cyngor. Ym mhob achos, bydd y Cyngor yn rhannu data dim ond i’r graddau yr ystyrir bod angen y wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.

 

Caiff unrhyw wybodaeth bersonol sydd gan y Cyngor ei datgelu i’r canlynol, at ddiben rhesymol:

 

  • Ein staff – pan fydd yr wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith. 
  • Y Llysoedd – dan gyfarwyddyd Gorchymyn Llys.
  • Llywodraeth Cymru - yn unol â'r gofynion statudol neu lle byddwn yn gweinyddu cynllun ar eu rhan. 
  • Ein partneriaid – yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt ac mewn cydymffurfiaeth gyfreithlon â GDPR y DU.  
  • Cyrff cyhoeddus eraill fel Cynghorau cyfagos, y GIG, CThEF, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Ymddiriedolaethau, yr heddlu.

Dan Ddeddf Economi Ddigidol 2017, caiff y Cyngor rannu data personol a roddwyd â Chynghorau eraill at ddibenion canfod/atal twyll neu droseddau, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer ymchwil ystadegol.

 

Mae gan Gyngor Bro Morgannwg ddyletswydd i amddiffyn y gronfa gyhoeddus y mae'n ei rheoli. Felly, mae’n bosibl y caiff y wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll neu ei rhannu gyda Swyddogion y Cyngor sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cronfeydd cyhoeddus.

 

Os oes cais neu os bydd y Cyngor o’r farn bod angen rhesymol, mae’n bosibl y bydd yn rhoi eich data i gyrff llywodraethu a sefydliadau datrys anghydfodau a gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys y rhai a restrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF). Gallent o bosibl ddefnyddio’r data i gyflawni eu swyddogaethau cyfreithiol.

 

Mewn rhai achosion, gall derbynwyr fod y tu allan i’r DU. Golyga hyn y gall eich data personol gael ei drosglwyddo i’r tu allan i Ewrop i awdurdodaeth efallai na fydd yn cynnig lefel gyfwerth o ddiogelwch. Os digwydd hyn, mae rhwymedigaeth ar y Cyngor i sicrhau bod camau diogelu priodol ar waith i ddiogelu eich data.  

Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol

Mae’r Cyngor yn cadw data personol yn rhinwedd ei waith fel rheolydd data. Rheolydd data sy'n penderfynu pam a sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio.  Bydd y Cyngor yn ystyried y rhesymau pam mae'n defnyddio eich data. Gallai ddefnyddio eich data i gyfrifo, diogelu a thalu eich budd-daliadau, i ddarparu gwasanaethau i chi, i ddarparu gwybodaeth i sefydliadau eraill amdanoch chi neu at ddibenion ystadegol a chyfeirio. O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae’n rhaid i'r Cyngor fod â sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'ch data/gwybodaeth.  Yn gyffredinol, bydd hyn oherwydd un neu fwy o’r rhesymau canlynol:

 

  • I fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol;
  • I gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol fel corff cyhoeddus; 
  • I fodloni ein rhwymedigaethau cytundebol i chi;
  • I ddiogelu buddiannau hanfodol gwrthrych y data neu berson naturiol arall.

Beth rydym yn ei wneud i gadw'ch data’n ddiogel ac i sicrhau ei fod yn cael ei brosesu'n deg 

Mae'r Cyngor yn gweithio i sicrhau bod ei systemau ynghylch gwybodaeth bersonol yn gweithredu drwy gynllun ac nid yn ddiofyn, mae’n:- 

 

  • Cryfhau prosesau mewn cysylltiad â thrin gwybodaeth bersonol;
  • I gydymffurfio’n llwyr â chyfraith Diogelu Data;
  • I gyflawni busnes y Cyngor;
  • Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw fel sy'n angenrheidiol yn unig; 
  • Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n gywir; 
  • Defnyddio data personol am resymau y caniateir iddo wneud hynny yn unig;
  • Bod yn dryloyw;
  • Cymryd camau ar unwaith os canfyddir nad yw data personol yn cael ei ddefnyddio'n briodol;
  • Adolygu a chraffu ar ei brosesau i wella lle bo hynny'n bosibl;
  • Gwrando ar bryderon pan fyddant yn cael eu codi ac yn mynd i'r afael â phryderon.

Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol

Bydd y Cyngor yn cadw’ch data personol cyhyd ag y bydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar eu cyfer yn unig.  Bydd y Cyngor yn cadw wedyn dim ond cyhyd ag y bo'n ofynnol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion neu am gyhyd ag y bo angen am resymau cyfreithiol neu reoleiddiol. 

 

Mae manylion mwy penodol ynglŷn â pha mor hir y mae'r Cyngor yn cadw gwybodaeth ar gael yn amserlen gadw'r Cyngor.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i weld a chael copi o’r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i’r Cyngor gywiro eich data personol os oes unrhyw gamgymeriadau neu wybodaeth sy’n hen.

 

Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol nes i unrhyw gamgymeriadau gael eu gwirio, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol.

 

O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar gyfer defnyddio eich data ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r Swyddog Diogelu Data yn ysgrifenedig.   

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu bryderon ynglŷn â sut y mae gan y Cyngor eich data, pa ddata mae’n ei gadw amdanoch chi neu beth mae'n ei wneud gyda'ch data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Cyngor. Gallwch hefyd wneud cwynion i'r Swyddog Diogelu Data, gan gynnwys cwynion am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn neu unrhyw un o weithgareddau'r Cyngor ynghylch eich data personol.

Sut i gysylltu â Swyddog Diogelu Data y Cyngor

Mae gan y Cyngor Dîm pwrpasol o staff sy'n gyfrifol am ymateb i faterion sy'n ymwneud â defnyddio data personol, o'r enw y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth.  Mae’n adrodd i Reolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor sydd hefyd yn Swyddog Diogelu Data y Cyngor. 

 

Y manylion cyswllt o ran y materion y cyfeirir atynt yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw trwy e-bost:

 

Neu gallwch ffonio canolfan gyswllt y Cyngor ar:

 

 

Neu gallwch ysgrifennu at y tîm yn y cyfeiriad canlynol:

 

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol,

Cyngor Bro Morgannwg,

Swyddfeydd Dinesig,

Heol Holltwn,

Y Barri,

Bro Morgannwg,

CF63 4RU

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 

Os ydych chi'n anfodlon ag unrhyw agwedd ar sut y mae'r Cyngor yn trin eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Gofynnwn i chi roi cyfle i'r Cyngor geisio datrys y pryderon gyda chi lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, mae'n fater i chi.

 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw corff annibynnol y DU a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am eich hawliau. Y manylion cyswllt yw:

 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,

Cymru,

Ail Lawr,

Tŷ Churchill,

Ffordd Churchill,

Caerdydd

 

 

Diweddaru’r hysbysiad hwn 

Gall y Cyngor ddiweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro. Pan fo hyn yn digwydd, byddwch yn gallu gweld y newidiadau a dyddiad y newidiadau. Adolygwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Medi 2026. Os hoffech weld y fersiwn flaenorol cyn y diweddariad, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn y manylion cyswllt a nodir uchod. 

 
Adolygwyd a diweddarwyd ddiwethaf: 14 Medi 2026