Mae cyfle cyffrous wedi codi i fusnesau wneud cais i'r Cyngor i rentu swyddfeydd yn Rhandai 1 a 2 yr Hen Neuadd.
Llety:
Rhandy 1 - Llawr gwaelod, yn cynnwys 2 swyddfa, cegin a thoiled.
Rhandy 2- Y llawr cyntaf a'r ail lawr, yn cynnwys 2 swyddfa ac 1 ystafell storio. Mae ganddo fynediad wedi’i rannu, toiled a chegin. Nid oes lifft.
Termau:
Bydd prydles newydd 3 blynedd yn cael ei chynnig gyda'r darpar denant yn gyfrifol am bob ardreth, treth a gwariant.
Manylion llawn y Cyfle Prydlesu
Cyflwyno Cais:
Ceisir datganiadau o ddiddordeb ar gyfer prydles 3 blynedd arfaethedig o randai 1 neu 2 a rhaid eu cyflwyno erbyn hanner dydd ar 8 Mai 2024.