Cost of Living Support Icon

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Faint sydd wedi’i ddyrannu i’r Fro?

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn cyfanswm o £14 miliwn gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i fuddsoddi dros dair blynedd. Llywodraeth y DU sy'n dyrannu'r gronfa hon ac mae'n parhau tan fis Mawrth 2025.

 

Sut y bydd yn cael ei gwario yn y Fro?

Prif nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw meithrin balchder mewn lleoedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU. Yn sail i'r nod hwn mae tair blaenoriaeth buddsoddi;

  • Cymunedau a lleoedd;
  • cefnogi busnes lleol; a
  • phobl a sgiliau

Bydd arian yn cael ei rannu ar draws y blaenoriaethau hyn. Caiff ei neilltuo i nifer o gynlluniau dan arweiniad y Cyngor, yn ogystal â phrosiectau dan arweiniad sefydliadau a busnesau eraill sy'n gweithredu ym Mro Morgannwg.

 

Sut i wneud cais am gyllid

Cyn penderfynu gwneud cais, darllenwch y Nodiadau Canllaw y Gronfa Ffyniant Gyffredin perthnasol a gwybodaeth bellach i benderfynu ar gymhwysedd eich prosiect a'r gwelwch y telerau ac amodau cysylltiedig. Gellir cael manylion am bob blaenoriaeth trwy glicio ar y dolenni isod;

 

Cymunedau a Lle

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer prosiectau Cymunedau a Lle wedi’i dyrannu’n llawn bellach ac nid ydym yn derbyn mwy o geisiadau.

 

Cefnogi Busnes Lleol

Pobl a Sgiliau/Lluosi 

 

 

Opsiynau Cyllido Eraill

Am opsiynau ariannu ychwanegol ar gyfer prosiectau Cymunedol, gan gynnwys prosiectau o dan £25,000, gweler; 

Cronfa Grant Cymunedau Cryf

 

Am opsiynau ariannu ychwanegol ar gyfer prosiectau Busnes, megis Grantiau Cychwyn Business, gweler;

 

Bwrsari Cychwyn Busnes y Fro