Cost of Living Support Icon

Cyfrifo’r Lwfans Tai Lleol

Mae’r Lwfans Tai Lleol yn ffordd o weithio allan hawliadau am Fudd-dal Tai ar gyfer tenantiaid sy’n rhentu tai gan landlord preifat. Os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu dai cymdeithasol arall, ni fydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnoch chi.

 

I weithio allan faint o fudd-dal a allech ei gael bydd rhaid i chi:

1. Weithio allan sawl ystafell wely y mae gennych hawl iddynt

2. Cadarnhau’r cyfraddau Lwfans Tai Lleol

3. Canfod os gallwch chi gael y budd-dal yn llawn

 

Gall faint o fudd-dal a gewch gael ei effeithio gan:

  • unrhyw arian yr ydych yn ei gael
  • unrhyw gynilon sydd gennych
  • faint o rent yr ydych yn ei dalu
  • os ydyn ni’n disgwyl i rywun sy’n byw gyda chi dalu tuag at gostau eich rhent
  • os ydych yn rhannu talu’r rhent gyda rhywun arall nad yw’n bartner i chi

Nifer yr Ystafelloedd Gwely y mae Hawl gennych iddynt

Mae nifer yr ystafelloedd gwely y mae gennych hawl iddynt yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n byw gyda chi.  Nid ydym yn cyfrif ystafelloedd eraill fel ystafell fyw, cegin neu ystafell ymolchi.

 

Caiff y Lwfans Tai Lleol a ddefnyddir yn eich cyfrifiad Budd-dal Tai ei gyfrifo gan ddefnyddio nifer yr ystafelloedd y mae gennych hawl iddynt, sef dim mwy na phedair ystafell wely.

 

Mewn rhai achosion, mae ychydig mwy o reolau. Os ydych yn sengl ac o dan 35 mlwydd oed, yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond y Gyfradd Rhannu Ystafell y byddech yn gallu ei hawlio. 

 

Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth ganlynol fel canllaw i weithio allan sawl ystafell wely y mae gennych hawl iddynt:

  • pob cwpl sy’n oedolion (yn briod neu'n ddibriod)
  • unrhyw oedolyn arall sy’n 16 mlwydd oed neu hŷn
  • unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw dan 16 mlwydd oed
  • unrhyw ddau blentyn dan 10 mlwydd oed
  • unrhyw blentyn arall

 

Gallwch ddefnyddio’r Cyfrifwr Ystafelloedd i weithio allan sawl ystafell wely y gellir eu defnyddio yn eich asesiad.  Y cyfan sydd rhaid i chi ei wneud ydy llenwi ffurflen i gael amcangyfrif ar-lein yn y fan a’r lle o ran sawl ystafell wely y mae gan eich aelwyd hawl iddynt. Cofiwch mai dim ond amcangyfrif yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir gennych chi yw’r amcangyfrif hwn.

 

Cyfrifwr Ystafelloedd

 

Mae’n bosib y caniateir i chi gael ystafelloedd ychwanegol os oes rhywun yn eich aelwyd angen gofal yn ystod y nos; os na allant rannu ystafell oherwydd anabledd neu afiechyd; os oes plentyn maeth gennych; neu os oes rhywun yn yr aelwyd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog.  

 

Enghreifftiau:

  • Mae Tom a Jane yn gwpl â phlentyn, Ben, sy'n 9 mlwydd oed.

    Mae hawl ganddynt i gael un ystafell iddyn nhw eu hunain ac un i Ben. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw Fudd-dal Tai y mae ganddynt hawl iddo yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer dwy ystafell wely. 

  • Mae Susan yn fam sengl â thri o blant, Tom, sy’n 14 mlwydd oed, Judy, sy’n 11 mlwydd oed a Raymond, sy’n 6 mlwydd oed.

    Mae gan Susan hawl i gael un ystafell wely iddi hi ei hun, un ystafell wely i Judy ac un ystafell wely i Tom a Raymond ei rhannu. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw Fudd-dal Tai y mae ganddynt hawl iddo yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer tair ystafell wely. 

  • Mae Lisa a Matt yn gwpl â phump o blant; Shaun, sy'n 17 mlwydd oed; Graham, sy'n 15 mlwydd oed; Laura, sy'n 12 mlwydd oed; Millie, sy'n 9 mlwydd oed; a Jessica, sy'n 6 mlwydd oed. 

    Mae hawl ganddynt i gael un ystafell wely iddyn nhw eu hunain, un ystafell wely i Shaun, un ystafell wely i Laura a Millie ei rhannu, un ystafell wely i Graham ac un ystafell wely i Jessica. Er bod angen pum ystafell wely arnyn nhw, dim ond pedair ystafell wely y gellir eu defnyddio ar gyfer dibenion y Lwfans Tai Lleol, felly bydd unrhyw Fudd-dal Tai y mae ganddynt hawl iddo yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer pedair ystafell wely.

 

Beth all effeithio ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol

Mewn rhai achosion mae rheolau ychwanegol yn berthnasol.  I esbonio, pan fyddwn yn cyfeirio at eiddo annibynnol rydym yn golygu pan fo gennych eich ystafell wely eich hun yn ogystal â’r canlynol:

  • ystafell ymolchi
  • tŷ bach
  • cegin (neu gyfleusterau ar gyfer coginio)

 

  • Rydych yn gwpl ac nid ydych yn byw gydag unrhyw ddibynyddion

    Bydd eich rhent yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer eiddo ag un ystafell wely os ydych yn byw yn un o’r canlynol:

     

     - Eiddo annibynnol

     - Llety a rennir ond bod dwy ystafell neu fwy gennych (ystafelloedd gwely ac ystafelloedd byw) na all neb arall eu defnyddio
    – Os ydych yn gwpl ac nid ydych yn byw ag unrhyw ddibynyddion ond eich bod yn byw mewn llety a rennir, bydd eich budd-dal yn seiliedig ar gyfradd ystafell a rennir y Lwfans Tai Lleol os ydych yn byw mewn llety a rennir.

  •  Rydych yn 25 mlwydd oed neu hŷn, yn sengl ac nid ydych yn byw gydag unrhyw ddibynyddion

    Bydd eich rhent yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer eiddo ag un ystafell wely os ydych yn byw yn un o’r canlynol:

     

     - Eiddo annibynnol

     - Llety a rennir ond bod dwy ystafell neu fwy gennych (ystafelloedd gwely ac ystafelloedd byw) na all neb arall eu defnyddio 

    - Os ydych yn byw mewn llety a rennir ac nid oes dwy neu fwy o ystafelloedd na all unrhyw un arall eu defnyddio gennych yna bydd eich budd-dal yn seiliedig ar gyfradd ystafell a rennir y Lwfans Tai Lleol.

  • Rydych chi o dan 35 mlwydd oed, yn sengl ac nid ydych yn byw gydag unrhyw ddibynyddion

    Dim ond cyfradd ystafell a rennir y Lwfans Tai Lleol gallwch ei chael.

  • Rydych ag anabledd difrifol neu’n byw gyda phartner ag anabledd difrifol ac nid oes unrhyw blant sy'n ddibynyddion gennych

    Bydd eich rhent yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer eiddo ag un ystafell wely.

     

    Mae bod ag anabledd difrifol yn golygu eich bod chi neu eich partner yn derbyn yr elfen ofal canolradd neu uwch o'r Lwfans Byw i'r Anabl neu Lwfans Gweini ac nid oes unrhyw un yn cael Lwfans Gofalwr ar eich cyfer chi na’ch partner.

     

  • Rydych yn berson sy’n gadael gofal ac o dan 22 mlwydd oed, neu yn byw gyda pherson sy’n gadael gofal dan 22 mlwydd oed sy'n bartner i chi ac nid oes unrhyw blant sy'n ddibynyddion gennych.

    Ystyr person sy’n gadael gofal yw rhywun oedd dan ofal y cyngor ar ôl 15 mlwydd oed.  Mae rhai amodau a materion cyfreithiol eraill yn berthnasol. Cysylltwch â ni’n uniongyrchol os oes angen rhagor o gyngor arnoch.

     

    Yn yr achosion hyn, bydd eich budd-dal yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol ar gyfer eiddo ag un ystafell wely. 

     

  • Cyd-denantiaid

    Os ydych yn gyd-denant bydd y swm a gewch yn seiliedig dim ond ar eich teulu sy’n byw gyda chi, ynghyd ag unrhyw bobl annibynnol, is-denantiaid neu letywyr.

     

    Er enghraifft, os ydych yn gyd-denant a'ch bod dan 35 mlwydd oed, yna bydd y rheolau ar gyfer y rhai sydd dan 35 mlwydd oed yn berthnasol.  Os ydych yn gyd-denant a bod person annibynnol yn byw gyda chi yna bydd hawl gennych i gael y gyfradd dwy ystafell wely. 

     

    Fodd bynnag, os ydych yn gyd-denant a bod y person annibynnol yn rhan o’ch teulu chi a theulu’r cyd-denantiaid, er enghraifft,  oherwydd eich bod yn frodyr ac mae eich tad yn byw gyda chi, yna bydd y ddau ohonoch yn gallu hawlio'r gyfradd dwy ystafell wely.

     

  •  Pobl annibynnol

    Os ydych yn hawlio budd-dal dim ond ar eich cyfer chi a’ch teulu y gallwch ei gael. Os ydych yn rhannu eiddo gyda rhywun nad yw’n rhan o'ch teulu, yna gall eich budd-dal gael ei ostwng. Mae hyn oherwydd y gallwn ddisgwyl iddyn nhw dalu tuag at eich rhent. 

 

Adran Budd-dal Tai

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holltwn

Y Barri

CF63 4RU

 

Cofiwch mai dim ond canllaw yw’r dudalen hon. Nid ei bwriad yw nodi eich hawliau cyfreithiol yn union. Rydym wedi ceisio sicrhau bod y wybodaeth sydd ar y dudalen hon yn gywir, ond mae’n bosib y gall fod gwybodaeth anghywir arni neu rai syniadau sydd wedi’u gor-symleiddio. Awgrymwn eich bod yn cysylltu â ni’n uniongyrchol.