Cost of Living Support Icon

Lwfans Tai Lleol (LTLl)

Mae’r Lwfans Tai Lleol yn un gyfradd lwfans sy’n seiliedig ar faint yr aelwyd a’r ardal y mae rhywun yn byw ynddi ar gyfer tenantiaid mewn llety rhent preifat a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2008.

 

Hafaliad LTLl

Os ydych yn byw mewn llety cyngor neu dai cymdeithasol eraill, nid fydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnoch.

 

Cyfrifo'r LTLI

LHA Vulnerability Policy

Provides a safeguard for vulnerable tenants and reassure them that their benefit and rent will be paid

 

Polisi'r Lwfans i rai sy'n Agored i Niwed

 

2024/25

Allowance
 Cyfradd rhannu/cyfradd dan 35 oed  £69.04
 Un ystafell wely  £121.00
 Dwy ystafell wely  £153.27
 Tair ystafell wely  £166.85
 Pedair ystafell wely  £235.89

 

2020/21 - 2023/24

Allowance
 Cyfradd rhannu/cyfradd dan 35 oed  £64.44
 Un ystafell wely  £100.00
 Dwy ystafell wely  £126.58
 Tair ystafell wely  £138.08
 Pedair ystafell wely  £195.62

 

 

  

Os ydych yn ansicr pa gyfradd sy’n berthnasol i chi yna cyfeiriwch at Cyfrifo'r Lwfans Tai Lleol

 

  • Pa landlordiaid gaiff eu heffeithio gan y Lwfans Tai Lleol?

    Bydd y LTLl yn effeithio ar unrhyw Landlord sy’n dechrau ar gytundeb tenantiaeth breifat wedi ei ddadreoleiddio gyda pherson y rhoddwyd Budd-dal Tai iddynt. Tenantiaeth wedi ei dadreoleiddio yw un a ddechreuodd wedi mis Ionawr 1989.

  • Beth sy’n digwydd os yw’r landlord yn codi'r rhent?

    Os yw eich rhent yn codi bydd angen i chi roi gwybod i ni oherwydd os nad ydych yn derbyn y LTLl llawn efallai y bydd gennych hawl i dderbyn mwy o Fudd-dal Tai. 

  • Sut caiff y LTLl ei dalu? 

    Mae’r LTLl yn daladwy i’r un sy’n hawlio. Ni fydd dewis bellach gan y rhai sy’n hawlio o daliad uniongyrchol i’r landlord. Caiff taliadau eu gwneud yn unol â’r patrwm talu presennol os yw’r hawliad yn derbyn budd-dal ar hyn o bryd, neu ôl-daliad fesul pedair wythnos yn achos hawlydd newydd.

     

    Bydd yn rhaid i’r tenant drefnu i dalu ei landlord.  Ni fydd y Cyngor yn siarad â’r landlord ynghylch hawliad ac eithrio pan fo’r hawlydd wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig i wneud hynny.

     

    Fel rheol telir drwy BACS (trosglwyddiadau uniongyrchol i gyfrif banc), sy’n golygu na fydd oedi yn sgil y post i boeni yn ei gylch, ac ni fydd yn rhaid i’r hawlydd aros i sieciau glirio. Mae’r arian ar gael yn syth unwaith iddo gyrraedd cyfrif banc yr hawlydd.

     

  • Beth os oes ôl-ddyledion rhent? 

    Fodd bynnag, os oes ôl-ddyledion rhent gan denant o 8 wythnos neu fwy mae hawl gan y landlord i ofyn am daliad uniongyrchol ac yn yr achosion hynny byddai’r cyngor yn cadarnhau wrth y Landlord swm y budd-dal y byddai hawl ganddynt arno.

     

    Os ydych yn landlord mae angen i chi roi gwybod i ni os oes gan eich tenant ôl-ddyled rhent cyn gynted ag y bo modd a rhoi tystiolaeth o unrhyw ôl-ddyledion. 

  • Yn y gorffennol telid y rhent yn uniongyrchol i’r landlord, a all hyn barhau os nad yw’r hawlydd yn dymuno derbyn yr arian?

    Os nad yw’r hawlydd yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros dalu’r rhent yna gall y cyngor wneud y taliad yn uniongyrchol i’w landlord.

     

    Fodd bynnag ni fydd hyn yn digwydd ond os oes rheswm cryf i wneud hynny sy’n golygu na all yr hawlydd ddod i ben â thrin ei faterion ariannol. Os yw’r hawlydd yn poeni dros gymryd y cyfrifoldeb hwn yna dylai siarad â’r Cyngor am ei bryderon ac egluro’r sefyllfa.  Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd y Cyngor yn gwneud taliad uniongyrchol i’r landlord a bydd angen dogfennaeth brawf cyn gwneud penderfyniad o’r fath. Caiff unrhyw benderfyniad ei adolygu’n flynyddol.

     

    Os carech wneud cais i’ch taliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i’ch Landlord ac rydych yn ateb y meini prawf,

    cwblhewch y Ffurflen Pobl sy’n Agored i Niwed y gellir dod o hyd iddi yma Tudalen Pobl sy’n Agored i Niwed.

 

 

Ar bwy na fydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio?

Ni fydd y rheolau newydd yn berthnasol i’r canlynol:

  • Tenantiaid Awdurdod Lleol
  • Tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithasau Tai)
  • Tenantiaid sydd â rhent wedi ei gofrestru neu rent “teg”
  • Tenantiaethau a ddechreuodd cyn mis Ionawr 1989
  • Achosion a ddiogelir megis tai cymorth a ddarperir gan landlordiaid cymdeithasol, elusennau neu sefydliadau gwirfoddol.
  • Tenantiaethau mewn carafanau, tai cychod neu hosteli