Cost of Living Support Icon

Penodi pennaeth gweithredol ar gyfer ysgolion newydd Y Barri

 

01 Medi 2017

 

Mae Dr Vince Browne wedi cael ei benodi’n Bennaeth Gweithredol ar gyfer y ddwy ysgol uwchradd rhyw cymysg a gaiff eu sefydlu yn y Barri y flwyddyn nesaf. 


Ac yntau ar hyn o bryd yn bennaeth yn Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr ac yn Bennaeth Gweithredol yn Ysgol Uwchradd Llanisien, bydd Dr Browne yn cymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar y gwaith strategol o reoli'r ddwy ysgol yn ogystal â chanlyniadau disgyblion. 

 

 

Dywedodd Dr Browne: “Yn naturiol, rydw i wrth fy modd o gael fy mhenodi i’r rôl newydd hon a'r her o sefydlu dwy ysgol uwchradd o’r radd flaenaf ar gyfer y Barri. 


 “Bydd y rhain yn ddwy ysgol ar wahân gyda’u hunaniaeth unigryw eu hunain a'm blaenoriaeth i fydd sicrhau bod y ddwy ysgol yn cydweithio i hwyluso’r gwaith o bontio o’r hen drefniadau i’r trefniadau newydd i ddisgyblion a rhieni.”

 

Dr Browne at work in the Civic Offices

 

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd cadeiryddion y ddau gorff llywodraethu dros dro, Antonia Forte a Carole Tyley: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Dr Vince Browne wedi’i benodi i’r swydd Pennaeth Gweithredol ar gyfer y ddwy ysgol newydd sy’n cael eu creu yn y Barri. 


 “Roedd Dr Browne yn ymgeisydd hynod ymhlith ymgeiswyr o safon a bydd y profiad sydd ganddo o gyflawni ei rôl flaenorol fel pennaeth gweithredol yn amhrisiadwy wrth i ni gydweithio i sefydlu’r ddwy ysgol newydd.” 

 

Bydd yr ysgolion newydd yn dechrau gweithredu o fis Medi 2018.


Bydd adeilad newydd sbon yn cael ei godi yn lle Ysgol Gyfun y Barri, tra bydd yr adeilad a ddefnyddir gan Ysgol Gyfun Bryn Hafren ar hyn o bryd yn cael ei adnewyddu’n gyfan gwbl fel rhan o raglen adeiladu a fydd yn sicrhau bod y cyfleusterau diweddaraf  ar gael yn y ddwy ysgol newydd. 


Nawr bydd pennaeth yn cael ei benodi ar gyfer y naill ysgol a’r llall, a fydd yn disodli ysgolion cyfun un rhyw y Barri a Bryn Hafren a gaiff eu diddymu ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2017/18. Yr athrawon hyn fydd yn gyfrifol am y gwaith o reoli eu hysgolion o ddydd i ddydd.


Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae hwn yn broject pwysig dros ben ac mae’n hanfodol bod y £44m sy’n cael ei fuddsoddi yn y maes addysg yn y Barri yn sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r dref. Mae penodiad Dr Browne yn golygu y caiff y gwaith o weddnewid addysg uwchradd yn y dref fwyaf yng Nghymru ei reoli gan un o arweinwyr mwyaf galluog y sector. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio'n glos gyda Dr Browne dros y misoedd nesaf." 

 

 

Dywedodd Paula Ham, y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau: “Mae gan Dr Vince Browne hanes o gydweithio'n glos gyda'r Cyngor i godi safonau cyflawniad. Mae wedi sicrhau canlyniadau ardderchog yn Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr. Ni allwn fod wedi gobeithio cael pennaeth gwell i'r ysgolion newydd."