Cost of Living Support Icon

 

Cerdyn Nadolig y Maer wedi’i gefnogi gan Gyngor Bro Morgannwg yn cyrraedd pedwar ban byd

Mae cystadleuaeth Cerdyn Nadolig 2017, wedi’i gynnal gan Faer Bro Morgannwg, wedi derbyn 500 o gynigion o blant o bob rhan o'r Fro.

 

  • Dydd Llun, 11 Mis Rhagfyr 2017

    Bro Morgannwg



Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr, roedd y 3 enillydd o Ysgol Gynradd y Bont-faen.  Y prif enillydd oedd Amy Quance, bl. 6 Ysgol y Bont-faen, daeth Harry Williams o ddosbarth Meithrin yn ail, ac Emily Wallis o’r dosbarth Derbyn ddaeth yn drydydd.

 

Defnyddir y ddau ddyluniad hyn fel Cerdyn Nadolig digidol Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Cynghorydd John Thomas.

 

Dywedodd Cynghorydd John Thomas: “Rwyf wrth fy modd cael defnyddio dyluniad dyn eira oer fel fy Nghyfarchiad Nadolig eleni ac rwy’n siŵr y bydd pawb sy’n ei gael wrth eu bodd.”


 

Y rhai ddaeth yn agos oedd Emrys Bowen; Mattea Griffiths a Ffion Thomas (o Ysgol Sant Curig, Y Barri). Oliver Ingram; Niamh; Mason Cornwall a Mackenzie (o Ysgol Illtud Sant, Llanilltud Fawr) a Lottie Smale; Dylan Bail Braunton; Oscar Birrane; Peter Coe; Seren Morgan a Katie Gardner hefyd o’r Bont-faen.

 

Dywedodd y Maer: “Roeddwn i wrth fy modd fod Amy rhoi meddwl mawr i’w cynllun ac yn falch iawn taw hwn fydd y cerdyn a gaiff ei argraffu i’w anfon fel fy Nghyfarchiad Nadolig i Gymru ac Ewrop”.

 

Hoffai’r Maer ddiolch i bawb a gystadlodd a hefyd Mrs Adams, plant a staff Ysgol y Bont-faen. 

 

 Her Worship The Mayor with the winning cards