Cost of Living Support Icon

 

Teithwyr wedi’u symud o faes parcio Pen y Clogwyn ger Penarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llwyddo i symud Teithwyr o faes parcio Pen y Clogwyn ym Mhenarth ar ôl cymryd camau cyfreithiol.

 

  • Dydd Llun, 09 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg

    Penarth



CivicCawsant eu troi allan o’r ardal fore dydd Gwener cyn symud i faes parcio Canolfan Hamdden Penarth am gyfnod byr – cawsant eu diarddel o'r fan honno hefyd.


Daeth y grŵp i’r ardal ddydd Sul a dywedodd swyddogion y Cyngor wrthynt ar unwaith nad oedd eu harhosiad wedi’i awdurdodi, ei fod yn anghyfreithlon ac na fyddai’n cael ei oddef.
Rhoddwyd gwybod i'r heddlu, a gwnaethant helpu gyda'r sefyllfa.


Rhaid dilyn proses lem pan mae grwpiau o Sipsiwn a Theithwyr yn meddiannu tir, a bu’n rhaid cwblhau hon cyn symud y grŵp yn ei flaen.

Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  “Mae’n gwbl annerbyniol meddiannu tir y Cyngor fel hyn. Ni fyddwn yn goddef y fath beth.


 “Cyn gynted ag y cawsom wybod am y sefyllfa, cymerwyd camau ar unwaith i sicrhau bod y grŵp yn cael ei symud cyn gynted â phosibl.”