Cost of Living Support Icon

 

Dewiswyd dyluniad disgybl Llanilltud Fawr fel enillydd cerdyn Nadolig y Maer Bro Morgannwg 2018

Mae cystadleuaeth Cerdyn Nadolig 2018, wedi derbyn canoed o gynigion o blant o bob rhan o'r Fro.

 

  • Dydd Mawrth, 18 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



 

Enillydd y gystadleuaeth oedd Nia Jones, 9, o Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanilltud Fawr, gyda'i cherdyn yn dangos diwrnod Nadolig yn yr eira.

 

Dewiswyd y dyluniad gan Faer Bro Morgannwg Cyng Leighton Rowlands, a Rheolwr Busnes i Gyfarwyddwr Rheoli’r Fro.

 

 

Vale Mayor with Nia Jones and her design

 

 

 

Dywedodd Maer Bro Morgannwg, Cyng. Leighton Rowlands:

 

“Mae Nia wedi dylunio cerdyn Nadolig aruthrol.

 

"Rydw i’n falch iawn taw hwn fydd y cerdyn a gaiff ei argraffu i’w anfon fel fy Nghyfarchiad Nadolig i Gymru ac Ewrop”.

 

 

Hoffai’r Maer ddiolch i bawb a gystadlodd.