Cost of Living Support Icon

 

Cyfraddau salwch yn y Cyngor yn gostwng yn sylweddol 

Mae lefelau salwch yng Nghyngor Bro Morgannwg wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i'r awdurdod lleol gymryd nifer o gamau i fynd i'r afael â'r mater.

 

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Rhagfyr 2018

    Bro Morgannwg



Rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni, gostyngodd cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch, a fesurir fel nifer y diwrnodau a gollwyd dros gyfnod o 17 y cant, o 4.45 fesul aelod o staff i 3.71 o gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.


Daw hyn ar ôl cyflwyno nifer o fentrau, gan gynnwys y Rhaglen Cymorth i Weithwyr Gofal yn Gyntaf a Hybu Iechyd Cadarnhaol.


Cynllun a ariennir gan y Cyngor yw'r Rhaglen Cymorth i Weithwyr Gofal yn Gyntaf, sy'n cynnig cwnsela a chyngor cyfrinachol i weithwyr ar amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â gwaith a materion personol.


Mae sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb wedi mwy na dyblu ers i'r rhain gael eu cyflwyno'r llynedd ac mae'r defnydd o dudalennau gwe canllawiau ar gyfer gwaith a gyhoeddwyd hefyd wedi cynyddu'n sylweddol.


CivicFel rhan o Hybu Iechyd Cadarnhaol, mae brechiadau rhag y ffliw ar gael i bob aelod o staff ac mae mwy yn eu cymryd na'r llynedd.


Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'r Cyngor wedi gwneud ymdrech wirioneddol i wella iechyd a lles staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rwyf wrth fy modd bod hyn wedi arwain at ostyngiad mewn lefelau salwch.


"Mae hyn nid yn unig o fudd amlwg i gynhyrchiant y Cyngor, ond dylai hefyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl sy'n gweithio i'r sefydliad. Rydym yn cymryd ein dyletswydd gofal tuag at staff o ddifrif a byddwn yn parhau i bwyso am welliant pellach yn y maes hwn."