Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg i gynnig benthyg offer am ddim i grwpiau cymunedol

Gall grwpiau cymunedol ledled y sir, nawr fenthyg amrywiaeth o offer am ddim o gwasanaethau Morgannwg. 

  

  • Dydd Iau, 01 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



 

Mae yna System Sain, taflunydd digidol, camera digidol, byrddau arddangos, îsl siart troi, iPads, cyfrifiaduron llechen Galaxy, Kindle Fire a gliniaduron ar gael.

 

Mae Gwasanaethau Gwirfoddoli Morgannwg yn elusen leol, wedi’i leoli yn Ganolfan Cymunedol Menter y Barri, sydd yn cefnogi grwpiau cymunedol yn y Fro, gydag amryw o wasanaethau rhad ac am ddim.

 

Mae bron 500 o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy’r gwasanaeth,  yn cynnwys gwirfoddoli gyda phlant, pobl ifanc, mewn ysbytai a hosbisau, ac o fewn y byd chwaraeon a llawer mwy.

 

Mae telerau ac amodau yn berthnasol i’r cynnig hwn, gyda chyfnod benthyg byrdymor.

 

Os hoffech fenthyca unrhyw rai o'r eitemau uchod neu ddysgu mwy am y GVS a'i wasanaethau, ffoniwch GVS ar 01446 741706 neu e-bostiwch enquiries@gvs.wales 

 

Neu, os ydych chi a diddordeb gwirffodoli yn y Fro, cysylltwch a GVS neu ebostiwch volunteering@gvs.wales

 

 

Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.

 

 

 

 GVS