Cost of Living Support Icon

 

Arlunydd byd-enwog yn nodi diwrnod cofio’r Holocost 2018 drwy arddangosfa yn Oriel Gelf Ganolog y Barri

 

Nododd Cyngor Bro Morgannwg Diwrnod Cofio'r Holocost 2018 ag arddangosfa gan ddarlunydd graddedig a ffotograffydd dogfennol arobryn.

 

  • Dydd Llun, 12 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



 

Roedd arddangosfa Michael Iwanowski, dan y teitl ‘Clear of People’ yn rhannu siwrne ei  dad-cu a’i hen ewythr wrth iddynt ddianc o Rwsia i Wlad Pwyl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Arddangosodd Thairien King, ffotograffydd a darlunydd, luniau enfawr a oedd yn ymdrin â’r thema cydraddoldeb ac yn rhannu’r neges bod pawb yr un fath. 

 

Cafodd y digwyddiad ei agor ddydd Sadwrn 27 Ionawr gan y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, gyda chefnogaeth Cyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog.

 

Yn ei araith y diwrnod hwnnw, dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Gall geiriau gael effaith anhygoel ar ein bywydau. Gallant frifo, dinistrio, gwella, newid, dylanwadu a llawer mwy.  Mae’r modd rydym yn mynegi ein hunain i eraill yn bwysig, er mwyn i ni gyfleu parch, caredigrwydd a gwyleidd-dra. Mae’n bwysig nodi Diwrnod Cofio’r Holocost. Rhaid i ni ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a rhaid i ni beidio ag anghofio”.

 

Mi fydd yr arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn 24 Chwefror.

 

Gallwch weld yr arddangosfa trwy brif fynedfa’r llyfrgell.

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan neu cysylltwch â Rheolwr Celf Ganolog y Barri ar 01446 700111.

 

 Artists marked Holocaust Memorial Day