Cost of Living Support Icon

 

Rhybudd wrth i dwyll ffôn CThEM dargedu trigolion ar draws y Fro

 

Mae pobl sy’n byw ar draws Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd yn cael eu rhybuddio i roi’r ffôn i lawr ar dwyllwyr sy’n honni eu bod yn galw o adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

 

  • Dydd Iau, 08 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae aelodau o Dîm Diogelu’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir  wedi derbyn nifer o gwynion yn y diwrnodau diwethaf ar yr un pryd â’r terfyn amser blynyddol i gyflwyno ffurflenni treth hunanasesu.

 

Cwynodd rhywun o ardal Pen-y-bont ar Ogwr fod rhywun wedi’i ffonio a fu’n honni ei fod yn galw o CThEM ac yn bygwth camau cyfreithiol. Yn ffodus, roedd y defnyddiwr hwn yn amheus a ffoniodd CThEM yn uniongyrchol gan gael cadarnhad mai twyll oedd yr alwad arall.

 

Dyma sut mae’r sgam yn gweithio:

 

Scam calls
  1. Byddwch yn derbyn galwad ffôn gyda neges sy’n dweud bod rhaid i chi ad-dalu arian i CThEM a bod angen i chi wasgu ‘1’ i siarad â gweithiwr achosion.
  2. Pan fyddwch yn siarad â rhywun, bydd yn gofyn am eich rhif yswiriant gwladol a’ch cod post ac yn bygwth erlyniad llys os nad ydych yn talu. Mae’n debygol o ofyn am daliad cerdyn.
  3. Gallai hyd yn oed fygwth eich arestio. 

 

Ymchwiliwyd i ddau gŵyn arall gan drigolion o Gaerdydd y dywedwyd wrthynt am dalu eu biliau treth trwy brynu talebau iTunes a rhoi’r codau cyfnewid i’r twyllwyr.

 

Talodd y ddau berson hyn £6750 rhyngddynt am dalebau iTunes.

 

 

Dywedodd y Cyng. Dhanisha Patel, Cadeirydd Cydbwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Gall derbyn galwad fel hyn fod yn fygythiol iawn, yn enwedig pan fyddant yn dweud wrthych eich bod wedi gwneud rhywbeth o’i le. Rydym yn annog preswylwyr i beidio byth â rhoi arian yn ystod galwad ffôn annisgwyl. Rhowch y ffôn i lawr, cymerwch eiliad i feddwl, yna ffoniwch Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506.

 

 “Mae ein Tîm Diogelu’n gweithio’n galed iawn i gysylltu â phreswylwyr a phartneriaid allweddol i fynd i’r afael ag achosion o dwyll ffôn – byddant yn cael eu hysbysu am unrhyw gŵyn a wneir gan breswylydd a byddant yn awyddus i helpu’r rhai hynny y gwnaed iddynt deimlo’n anghyfforddus o ganlyniad i’r galwadau bygythiol hyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, rhowch y ffôn i lawr ar y twyllwyr hyn ar unwaith.”

 

Cyngor y tim diogelu i  gadw’n  saff yw:

 

  • Peidiwch rannu eich manylion personol  ar y ffon

 

  • Rhowch y ffon i lawr

 

  • Os ydych yn credu bod angen i chi dalu mwy o dreth, ffoniwch CThEM yn uniongyrchol eich hun trwy ddefnyddio rhif ffôn yr ydych yn dod o hyd iddo eich hun – nid rhif a roddir i chi gan alwr twyllodrus.

 

  • Ni fyddai CThEM byth yn gofyn i chi dalu eich treth mewn talebau iTunes.

 

  • Siaradwch â ffrind neu berthynas am y mater neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth.

 

  • Cysylltwch â’ch darparwr ffôn lleol i weld a oes modd iddo eich cynorthwyo i leihau galwadau twyllodrus a niwsans i’ch ffôn.

 

Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir nifer bach o declynnau sy’n blocio galwadau ar gyfer pobl sy’n derbyn galwadau twyllodrus cyson. Mae’r teclynnau hyn yn helpu pobl sy’n agored i niwed a'r henoed drwy flocio galwadau gan rifau anghyfarwydd.  Cynhelir asesiad o anghenion fesul achos ar gyfer y gwasanaeth hwn sydd am ddim.

 

Mae sawl darparydd gwasanaeth ffon yn cynnig gwasanaethau i rwystro galwadau diangen, am ddim.

 

 

Dyled cwynion ar gyfer sgamiau ar y ffon cael eu hadrodd i’r Cymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, trwy alw 03454 040 506, sydd yn arwain i asesiad gan y Safonau Masnachu.