Cost of Living Support Icon

 

Gweinidog Llywodraeth Cymru yn ymweld ag uned ail-alluogi Cyngor Bro Morgannwg

Bu Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies AC yn ymweld ag Uned Ail-alluogi arloesol yng nghartref preswyl Tŷ Dyfan Cyngor Bro Morgannwg yn y Barri yn ddiweddar.

 

  • Dydd Gwener, 02 Mis Chwefror 2018

    Bro Morgannwg

    Barri



 

 

Yn dilyn ei agor ddiwedd 2016, mae hwn yn gyfleuster sy’n pontio rhwng ysbytai a chartrefi, yn gofalu am bobl nad ydynt yn gallu gofalu amdanynt eu hunain eto ac a fyddent fel arall yn  defnyddio gwely mewn ysbyty.

 

Mae Tŷ Dyfan yn cynnig chwe gwely ‘gofal canolraddol’ tymor byr ar gyfer y rheiny a all fod angen therapi neu gymorth arnynt cyn y gallant ddychwelyd i'w cartrefi.

 

Mae'r preswylwyr yn cael rhaglenni ail-alluogi pwrpasol i’w helpu i ail-addasu i fyw’n annibynnol.

 

Wedi’i hariannu gan y Gronfa Gofal Canolraddol,  mae’r uned yn cynnig cymorth gan dîm amlddisgyblaeth sy’n cynnwys staff gofal Cyngor Bro Morgannwg a therapyddion Gwasanaeth Adnodd Cymunedol BIP Caerdydd a’r Fro.

 

 

Dywedodd y Cyng. Gordon Kemp, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: Mae’r cyfleuster hwn yn chwarae rôl bwysig yn helpu pobl sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty ond sydd angen ychydig o amser ychwanegol mewn amgylchedd cefnogol i’w galluogi i adfer eu hannibyniaeth.

 

“Mae tîm gofal mewnol y Cyngor wrth law drwy’r dydd, bob dydd i gynorthwyo preswylwyr a'u helpu i fynd adref cyn gynted â phosibl. Yn dilyn asesiad, maent yn gweithio gyda’r preswylydd i ddatblygu rhaglen ail-alluogi ac yna'n gweithio’n agos gyda therapyddion i weithredu hon.

 

“Trwy gynnig cyfleuster ail-alluogi yn llwyddiannus, rydym nawr yn gweithio’n effeithiol er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o flocio gwelyau sy’n peri cymaint o broblemau yng Nghymru.”

 

Mae’r preswylwyr yn yr uned ail-alluogi’n cael ffisiotherapi a sesiynau therapi galwedigaethol yn ddyddiol yn ogystal â sgyrsiau ar wella iechyd; mae hyn oll wedi ei gynllunio i fagu hyder yn ogystal ag adfer ffitrwydd corfforol.

 

Dywedodd Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies: “Ro'n i'n falch iawn o gael cwrdd â staff sy'n gysylltiedig â’r Uned Ail-alluogi i weld eu gwaith arloesol a chael y cyfle i gwrdd â phreswylwyr Tŷ Dyfan a'u teuluoedd i glywed am eu profiadau.

 

“Mae’r gwasanaethau a welais yn enghraifft ardderchog o’r math o wasanaeth yr ydym yn awyddus i’w weld yn cael ei ddatblygu ledled Cymru. Roedd yn wych gweld gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio yn y lleoliad arloesol hwn i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn brydlon a helpu pobl i adfer eu hannibyniaeth.”

 

 

Minister visit