Cost of Living Support Icon

 

Grant arloesedd werth £26,000 i Ddysgu Cymraeg ym Mro Morgannwg 

Mae Grant Arloesedd werth £26,000 wedi’i roddi i Ddysgu Cymraeg yn y Fro, gan alluogi iddynt ddatblygu clwb gwaith cartref i deuluoedd â phlant mewn ysgolion Cymraeg, mewn partneriaeth â’r Urdd, Menter Bro Morgannwg a Mudiad Meithrin.

 

  • Dydd Mawrth, 23 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg yn ymgysylltu ag oedolion sy’n byw ym Mro Morgannwg, sydd am ddysgu sut mae cyfathrebu drwy’r Gymraeg.

 

Gwahoddwyd holl ddarparwyr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i fidio am grant newydd i ddatblygu arferion arloesol mewn partneriaeth â sefydliadau lleol neu genedlaethol eraill. 

 

Bydd y clwb newydd, o’r enw Clwb PYG – Plant mewn Ysgol Gymraeg - sydd wedi'i gydlynu gan Ddysgu Cymraeg yn y Fro, yn cael ei gynnal unwaith yr wythnos am ddwy awr ar ôl ysgol, fel peilot dros dymor yr haf 2018 yng Nghanolfan Palmerston.

 

Bydd y clwb yn cael ei gynnal ar sail galw heibio am ddim, a bydd yn rhoi cyfle i blant a rhieni i ddysgu gyda'i gilydd, y tu mewn a'r tu allan i amgylchedd yr ysgol. Byddant yn derbyn cefnogaeth gyda llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, cyngor a help gyda gwaith cartref a sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg. 

 

 

 

purple logo 2