Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion yn Llanilltud Fawr yn lleihau eu gwastraff plastig mewn ymdrech i amddifyn yr amgylchedd 

Mae myfyrwyr yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanilltud Fawr wedi bod yn torchi llewys i leihau’r plastig y maent yn ei ddefnyddio mewn ymgais i ofalu am yr amgylchedd. 

 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



 

Mwynhaodd pwyllgor yr ysgol, sy’n cynnwys plant o flwyddyn un i flwyddyn pump, wylio clipiau fideo o gyfres ddiweddar y BBC, Blue Planet II, ac ysbrydolwyd y disgyblion i helpu ar ôl gweld yr effaith y mae plastig yn ei chael ar foroedd.

 

 Penderfynodd y pwyllgor ddisodli poteli plastig bach o laeth a gwellt yfed â photeli llaeth mawr gan gwmnïau llaeth lleol. Byddent yn prynu cwpanau amldro ac yn hyfforddi staff yr ysgol ar sut i olchi'r cwpanau a mesur y llaeth yn ofalus fel bod pob plentyn yn cael y swm cywir bob dydd. 

 

 

Nursery and reception children at Ysgol Gymraeg Dewi Sant

 

Yr athrawon Melissa Davies a Rachel Holley, sy’n aelodau o’r eco-bwyllgor, sydd wedi bod yn trefnu’r prosiect. 

 

Dywedodd Rachel Holley: "Rydyn ni’n siŵr y bydd y newid hwn yn lleihau faint o blastig rydyn ni’n ei wastraffu ac, o ganlyniad, yn helpu i gadw’r môr yn lân a diogel.

 

"A ninnau mor agos at yr arfordir, dwi’n credu bod lleihau gwastraff plastig wedi taro tennyn yng nghalonnau’r plant gan fod y môr yn rhan mor fawr o'u bywydau. Ond dwi hefyd yn credu eu bod i gyd yn mwynhau teimlo bod yr hyn y maent wedi’i wneud yn cael effaith wirioneddol ar y byd. Er ein bod wedi trefnu sawl digwyddiad yn yr ysgol, dyma’r prosiect mwyaf i’r plant fod yn rhan ohono o gryn dipyn.

 

 "Dwi’n siŵr mai megis dechrau y mae’r disgyblion ar eu taith, a dwi’n mawr obeithio y gallwn ysbrydoli ysgolion eraill i ymuno â ni a chwarae eu rhan yn helpu i gadw’r blaned yn lân."

 

 

 

The eco committee made up of year 1 - 5 pupils