Cost of Living Support Icon

 

Parc Gwledig Porthceri i gynnal noson syllu ar y Sêr 

Mae seryddwyr yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â nhw am noson am ddim o syllu ar y sêr fis nesaf.

 

  • Dydd Llun, 15 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



 

Wedi'i drefnu mewn partneriaeth â Chymdeithas Seryddol y Barri a'r gwasanaeth ceidwaid parciau, bydd y digwyddiad ym Mhorthordy’r Goedwig ym Mharc Porthceri’n cynnwys sgyrsiau a chyflwyniadau ac amser i arsylwi’r nen drwy delesgopau.

 

Bydd yn dechrau am 7pm nos Wener 16 Chwefror a bydd lluniaeth a llefydd parcio ar gael. 

 

Dylech gadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio Cymdeithas Seryddol y Barri ar dave.powell@uwclub.net neu fynd i’r wefan am ragor o wybodaeth.

 

Neu, ffoniwch Geidwad y Safle, Mel Stewart ar 01446 733589.

 

Mae cadarnhau lle o flaen llaw yn synhwyrol, ac i gofrestru eich lle, gallwch ddanfon ebost i Gymdeithas Seryddol y Barri ar dave.powell@uwclub.net neu ewch i’r https://www.facebook.com/Barry-Astronomical-Society-1744319609188634/wefan am fwy o wybodaeth.

 

Gallwch hefyd gofrestru eich lle drwy ebostio Coedwigwr y safle, Mel Stewart ar 01446 733589 .

 stars