Cost of Living Support Icon

 

Plant y Fro yn cael eu hannog i rannu straeon yng nghystadleuaeth ysgrifennu 'Fy nhref, Fy stori'

Mae'r Gymdeithas Gefeillio wedi lansio cystadleuaeth i blant 7-12 oed ledled Bro Morgannwg. 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Ionawr 2018

    Bro Morgannwg



 

Gwahoddir plant yn y Fro, yn ogystal â gefeilldrefi’r sir - Rheinfelden yn yr Almaen, Mouscron yng Ngwlad Belg a Fécamp yn Ffrainc - mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol, i rannu straeon am eu trefi.

 

Mae’r gystadleuaeth hon hefyd yn dathlu 50 mlynedd ers i Fro Morgannwg gael eu gefeillio gyda Rheinfelden. 

 

Bydd pob enillydd ar y rhestr fer yn cael Tystysgrif Canmoliaeth gan y Maer neu’r Dirprwy Faer, a bydd y tair stori orau o bob gefeilldref yn cael eu cyhoeddi mewn llyfr i’w werthu. 

 

Ni ddylai'r straeon fod yn fwy na 300 gair, a dylid cyflwyno darn o waith celf gwreiddiol A5 gyda nhw sy’n cynrychioli’r stori. 

 

Caiff y ceisiadau eu beirniadu ar sail mwynhad, plot, gwreiddioldeb, iaith a chymeriadaeth. Bydd un gystadleuaeth ar gyfer plant blwyddyn 7-9 ac un arall ar gyfer plant blwyddyn 10-12.

 

Caiff y straeon buddugol eu cyfieithu gan bob gefeilldref i Almaeneg, Saesneg a Ffrangeg i greu llyfryn.

 

Rhaid i bob ymgais gael ei chyflwyno i gynrychiolydd a enwebir yn Neuadd y Dref, megis y Swyddog Gefeillio, erbyn dydd Mercher 28 Chwefror.

 

Am fwy o wybodaeth ar y gystadleuaeth, cysylltwch a Swyddog Cabinet Cyngor Bro Morgannwg, Mark Petherick ar 01446 709854 neu danfonwch ebost

 

 

 

 

Twin town flags