Cost of Living Support Icon

 

10 myth a chwedl ar draws Bro Morgannwg

Storiâu am fôr-ladrad, llongddrylliad, a chyniweirfa ar draws Bro Morgannwg

 

1. Stori’r llongddryllwyr

Dark and stormy sea

Mae si ar led i’r stori hon ddigwydd mewn trefi arfordirol ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys y Fro.

Un tro, roedd hen ddyn a’i wraig yn gweithio fel llongddryllwyr ar hyd yr arfordir. Ond bydden nhw'n gosod goleuadau ffug, denu llongau i'r creigiau, a dwyn eu nwyddau.

 

Mae'r stori’n sôn am un noson o dywydd trwm, pan yn ôl eu harfer, ar ôl clywed llong hwylio yn curo i mewn o'r Gorllewin, gosododd y ddau eu goleuadau ac yn mynd i'r gwely.

 

Y bore canlynol aethant i lawr i'r arfordir a gweld bod y llong a'r rhan fwyaf o'i chriw wedi marw ar y creigiau'r noson honno. Gallai'r hen ddyn weld dyn, yn hanner farw, yn rholio yn y tonnau.

 

Gafaelodd yr hen ddyn mewn carreg a tharo’r morwr dros ei ben, i sicrhau nad oedd unrhyw oroeswyr. Ond ar ôl iddo droi’r corff drosodd i chwilio drwy bocedi'r dyn, gwelodd yn y dŵr o’i flaen ei unig fab a oedd yn ei garu’n fawr, bachgen a oedd wedi mynd i'r môr sawl blwyddyn cyn hynny.

 

 

 

2. Amy..

Plough and Harrow Inn

 

Wedi'i adeiladu yn 1383 yn Faenor ar gyfer mynachlog leol, cafodd yr adeilad ei ddefnyddio unwaith fel storfa, ond hefyd fel corffdy ar gyfer cyrff morwyr a gafodd eu denu i'r arfordir peryglus gan 'Longddryllwyr y Wig'.

 

Mae aelodau staff a pherchnogion wedi dweud bod un o'r ysbrydion - Amy, sydd i'w chlywed yn cerdded yn aml ar y landin - yn ferch a fu farw'n ifanc yn agos at yr adeilad.

 

Pan gafodd yr adeilad ei adnewyddu, ymddangosodd y geiriau YSTAFELL CHWARAE AMY ar un o'r drysau, ac er y newidiadau dros y blynyddoedd, mae'r geiriau wedi aros

 

 

3. Y Cae Bwgannod 

 

TinkinswoodA wyddech chi?  Cafodd siambr gladdu Tinkinswood yn Sain Nicholas ei hadeiladu bron 6000 mlynedd yn ôl, yn ystod 'Oes Newydd y Cerrig' yn Ewrop ac roedd yn dal 50 corff tu fewn iddi. 

 

Mae llawer o chwedlau yn ymwneud â'r ardal, gan gynnwys y stori os byddai unrhyw un sy'n treulio noson yn y safle hwn ar y nosweithiau cyn Calan Mai, dydd Sant Ioan (23ydd Mehefin), neu ddiwrnod canol gaeaf yn marw, mynd o'u coeau, neu'n dod yn feirdd.

 

Mae hanes arswydus arall yn honni mai merched wedi’u troi’n garreg am ddawnsio ar y Saboth yw’r clogfeini i'r de o'r gofgolofn

 

 

4. Cap Coch

River at night

Roedd tafarn New Inn yn Aberogwr yn fan poblogaidd yn hwyr yn y 1700au i unrhyw un oedd yn dymuno croesi'r afon gerllaw. 

 

Perchennog y New Inn oedd Cap Coch, enw a roddodd y bobl leol iddo gan fod ei gap coch wastad ar ei ben. Ond doedd neb yn gwybod ei fod, mewn gwirionedd, yn arwain gang o smyglwyr a herwyr a oedd yn aml yn ymosod ar deithwyr ac yn dwyn ganddyn nhw ar y ffyrdd lleol. Roedd teithwyr a arhosodd yn y New Inn yn aml mewn perygl o ladrad, neu o gael eu lladd hyd yn oed.

Byddai cyrff y teithwyr anffodus yn dod i'r golwg yn yr afon bob hyn a hyn, ond doedd neb yn amau Cap Coch...  

 

Doedd neb yn gwybod am ei hanes drwg tan yn gynnar yn y 1900au pan ddymchwelwyd y New Inn. Cafwyd hyd i dwnnel o dan y gegin yn cynnwys yr holl drysor yr oedd ef a’i griw wedi’i ddwyn.

 

 

5. Illtud Sant 

St Illtuds

Mae Illtud Sant yn adnabyddus i lawer fel y Mynach a ail-sefydlodd Eglwys Illtud Sant yn Llanilltud Fawr, yn 508 O.C.  Ond yn ôl y chwedl, roedd Illtud Sant yn rhyfelwr medrus cyn dod yn fynach...

 

Credir ei fod wedi ymladd wrth ochr yr enwog Frenin Arthur wrth amddiffyn Prydain yn erbyn y Sacsoniaid, a heidiodd o'r Almaen yn ystod yr oesoedd canol.

 

6. Hebog y Nos

Sully-Island

Wedi'i lleoli rhwng Penarth a'r Barri, gellir cyrraedd Ynys Sili ar droed yn ystod llanw isel, ac mae'n daith gerdded boblogaidd ar ddiwrnod heulog.

 

Fodd bynnag, mae si ar led bod yr Ynys, yn y drydedd ganrif ar ddeg, yn gartref i fôr-leidr Normanaidd, Alfredo De Marisco, a oedd yn cael ei adnabod gan drigolion lleol fel ‘Hebog y Nos’.

Roedd yr Ynys yn ymwneud â'r fasnach smyglo leol, ac mae tystiolaeth fod Rhufeiniaid a Llychlynwyr wedi ymweld â hi.

 

7. Blue Anchor

Blue Anchor Inn

 

Daw enw’r dafarn boblogaidd hon o’r ‘marl’ oedd yn gorchuddio angor llongau ym mhorthladd Aberddawan.

 

Wedi’i godi ym 1380, y Blue Anchor yw un o dafarndai hynaf y Fro, ac yn ogystal â mwynhau bwyd a diod yn y dafarn gyda'r nos, gall ymwelwyr sy’n gyfarwydd â’r hanes fynd ar drywydd olion twnnel cudd a ddefnyddiwyd ar un adeg i gludo contraband rhwng Bae Aberddawan a’r dafarn.

 

8. Gwraig Wen Castell Aberogwr

Ogmore Castle

Mae gwraig wen castell Aberogwr yn enw cyfarwydd i lawer, yn wahanol i’w stori...

 

Mae'r stori’n sôn am ddyn a gafodd ei ddeffro ynghanol y nos, i weld ysbryd gwraig wen yn hofran uwch ei ben, yn ystumio iddo ei dilyn.

 

Arweiniodd y ddynes ef i adfeilion castell Aberogwr, a dweud wrtho am godi un garreg benodol. Cododd y garreg a chanfod crochan yn llawn darnau aur.

 

Dywedodd y wraig wen wrtho i gadw hanner i’w hun a gadael y gweddill lle daeth o hyd iddynt.  Roedd y dyn wrth ei fodd i gael y cyfle yma, felly cymerodd y darnau arian a gadael y gweddill, fel y dywedwyd wrtho, a diflannodd y wraig wen.

 

Roedd y newyddion o gyfoeth newydd dirgel y dyn yn frith drwy'r dref, ac eto ni ddatgelodd ei gyfrinach. Er gwaethaf ei ffordd o fyw moethus newydd, meddyliodd yn aml am y darnau arian a adawodd ar ôl, felly un noson sleifiodd yn ôl i'r Castell, a chanfod y garreg a gweddill y darnau aur.

 

Yn syth wedi iddo ddechrau llenwi ei bocedi, aeth ias oer i lawr asgwrn eigefn ac fe ymddangosodd y wraig wen eto. 'Ddyn ffôl ', meddai. 'Mae gennych bopeth y gallech byth fod ei angen, ac eto yr ydych yn dal eisiau mwy. O'r noson hon ymlaen bydd eich ffawd yn cael ei wrthdroi.'  Ac yna diflannodd.

 

Gan ofni rhybudd y wraig wen, rhoddodd y dyn y darnau aur yn ôl a rhedodd adref.

Fodd bynnag, yn yr wythnosau i ddilyn, aeth y dyn yn sâl ac er iddo wario ei arian ar y doctoriaid gorau o gwmpas, gwaethygodd ei gyflwr.

 

Er mawr siom iddo, datguddiodd ffynhonnell ei gyfoeth a chyfaddefodd ei ail daith ffôl i adennill gweddill yr aur, ond aeth a chyfrinach union leoliad y crochan i'w fedd. Arweiniodd ei gyfaddefiad at i lawer o bobl chwilio'r ardal, yn y gobaith y byddent yn dod o hyd i'r aur, ond nid oes neb wedi eto. 

 

9. Dunraven ‘Wreckers’

Dunraven-Bay

 

Mae fersiwn arall o Llongddryllwyr Dwnrhefn yn son am gangiau o droseddwyr, a oedd yn chwalu ac ysbeilio llongau hwylio.

 

Arweinydd Llongddryllwyr Dwnrhefn oedd dyn â bachyn haearn yn fraich. Fe’i galwyd yn ‘Mat Llaw Haearn’. Roedd Mat a’i griw yn greulon ac yn gwneud yn siŵr nad oedd neb yn goroesi’r llongddrylliadau i ddatgelu pwy oedd yn gyfrifol...

 

Anfonodd Matt air at Walter Vaughan o Gastell Dwnrhefn i ddweud bod galiwn yn hwylio fyny’r sianel; roedd yr amodau’n berffaith ar gyfer llongddrylliad. Yn ôl y sôn, roedd yn llawn tybaco, brandi ac aur. 

 

Yn fuan wedi’r wawr, aeth Matt Law Haearn a rhai o’i ddynion â chafnau o Frandi a chasys tybaco i’r plasty. Gadawodd Walter ei frecwast i fynd i asesu’r trysor. Roedd Matt yn gwenu fel giât. Estynnodd sach waedlyd i Vaughan, “rhodd arbennig i chi,” dywedodd.

 

Cymerodd Vaughan y bag, yn diswgyl i weld gemau anghyffredin. Yn lle gemau, fe welodd llaw gwahanedig.

Ar y bys bach roedd modrwy aur â sêl Dwnrhefn arni – modrwy ei fab. 

 

Darllenwch y stori ar dudalen Facebook Llysgennad y Fro  

 

10. Lady in White

Lady-in-white

Roedd yr Arglwyddes de Clare, sy’n cael ei hadnabod gan lawer fel y Ladi Wen, yn ferch i'r Arglwydd Morgannwg.

 

Yn y 1140au, priododd yr Arglwyddes de Clare â Syr Jasper Berkerolles o West Orchard. Ond ym 1148 aeth Syr Berkerolles i’r Tir Sanctaidd i frwydro yn yr Ail Groesgad. 

Ar ddychwelyd sawl blwyddyn yn ddiweddarach, cyhuddodd ef yr Arglwyddes de Clare o odinebu â Syr Gilbert D’Umfreville o East Orchard Castle. 

 

Gwadodd yr Arglwyddes yr honiadau, ond nid oedd ei gŵr yn ei chredu, ac i’w chosbi, aeth ati i’w chladdu hyd at ei gwddf ar ochr yr hen ffordd ger Fferm Batslayes, er mwyn i bawb ei gweld.

Gwaharddodd unrhyw un i roi bwyd na diod iddi, ond ar ôl i chwaer yr Arglwyddes erfyn arno, cafodd ymweld â hi ar yr amod na fyddai’n ceisio mynd ag unrhyw beth iddi. 

Ymwelodd y chwaer â’r Arglwyddes yn gynnar bob bore pan oedd y gwlith yn drwm ar y borfa ac wrth fynd yn ddigon agos at ei chwaer, gallai hithau sugno'r dŵr o hem ei gŵn gwyn.  Helpodd hyn ei chwaer fyw am 10 diwrnod arall.

 

Dim ond wedi iddi farw y darganfu Syr Berkerolles ei fod wedi’i chyhuddo ar gam ac aeth yn wallgof. 

 

Ym 1909 ysgrifennodd Marie Trevelyan o Lanilltud Fawr fod nifer o fenywod a oedd yn dihuno’n ddigon cynnar yn y bore, yn honni eu bod wedi gweld ysbryd gwraig mewn gwisg wen yn cerdded o amgylch man penodol mewn cae, a hynny heb wybod yr hanes truenus.

 

Adnoddau: White Lady St Athan  /  White Lady Ogmore /  Cap Coch /  Haunted Field /  Night Hawk / Saint Illtud / Dunravern Wreckers