Cost of Living Support Icon

 

4,000 o dunelli o halen wrth law wrth i’r Cyngor baratoi am y gaeaf

Mae fflyd o naw cerbyd graeanu bellach wrth gefn 24 awr y dydd ym Mro Morgannwg, ynghyd â stôr o 4,000 o dunelli o halen wrth i dîm cynnal a chadw'r gaeaf Bro Morgannwg baratoi i gadw'r sir i symud drwy gydol gaeaf rhewllyd arall. 

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



Taenodd y tîm halen dros 24,000km o ffordd yn ystod gaeaf 2017/18.  

 

Snow tweet infographic (cym)Eleni, bydd tîm o beirianwyr profiadol yn rhoi sylw 24 awr i werthuso’r wybodaeth o chwe gorsaf dywydd ledled y Fro a bydd bron hanner rhwydwaith ffyrdd y Fro, gan gynnwys y prif lwybrau cymudo a bysus, yn cael ei raeanu pan fydd tymheredd y ffyrdd yn disgyn.

 

Bydd preswylwyr yn cael gwybod bob tro bydd y fflyd ar waith drwy ffrydiau Twitter y Cyngor.

 

 

 

Os bydd eira, blaenoriaeth y tîm fydd clirio a thorri drwy’r eira ar yr holl briffyrdd rhwng trefi, ffyrdd dosbarthu rhwng trefi llai a phentrefi, a'r ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd tân a chyfleusterau pwysig eraill yr effeithiwyd arnynt.

 

Yn ogystal, mae gan y Cyngor cynlluniau ar waith i gysylltu’n well â ffermwyr lleol ac amrywiaeth o gontractwyr arbenigol a fydd yn helpu i glirio’r eira os bydd angen, gan sicrhau y gellir clirio'r ffyrdd yn gynt os bydd trwch mawr o eira. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Geoff Cox, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Fel arfer, dim ond pan fyddwn yn profi tywydd eithafol fel eira trwm a llifogydd y caiff y gwaith y mae ein timoedd cynnal a chadw'r gaeaf a’r priffyrdd gael ei gydnabod, ond mae swyddogion y Cyngor yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn i gadw’r Fro i symud. Yn dyst i hyn yw pa mor barod ydynt ar gyfer y gaeaf hwn.  

 

“Nid yw’n hawdd nac yn rhad cadw ein ffyrdd yn glir ac yn ddiogel mewn tymereddau rhewllyd, ond rydym yn ymwybodol o ba mor bwysig yw cysylltiadau trafnidiaeth y Fro i’n trigolion ac felly rydym yn blaenoriaethu’r gwaith hwn. 

 

“Hoffwn ddiolch ymlaen llaw i’r tîm cyfan am yr holl waith caled y gallwn ei ddisgwyl ganddo erbyn hyn.”   

Rhagdybir i'r holl waith cynnal a chadw dros y gaeaf gostio rhwng £380,000 ac £800,000, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol fydd y tywydd oer.

 

Cyfanswm y gost o ddarparu’r gwasanaeth cynnal a chadw yng ngaeaf 2017/18, gan gynnwys y costau a oedd yn gysylltiedig â’r argyfwng ym mis Mawrth 2018, oedd £768k.