Cost of Living Support Icon

 

Plant yn dysgu am beryglon gangiau cyffuriau yn rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu

Mae plant wedi bod yn dysgu am beryglon gangiau cyffuriau fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan gynghorau Bro Morgannwg a Chaerdydd ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu.

 

  • Dydd Iau, 15 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg

 

 

Man standing in the dark

Mae’r ddau awdurdod lleol wedi helpu i gydlynu rhaglen lawn o sgyrsiau a chynadleddau a gynhelir rhwng dydd Llun a dydd Gwener 12-16 Tachwedd.

Maent yn ymdrin â phynciau megis camfanteisio ar bobl, caethwasiaeth fodern a diogelu mewn chwaraeon.

 

Cynhaliwyd sesiwn arall gan Dimitri Jordan, cyn-aelod o gang a drawsnewidiodd ei fywyd ar ôl ieuenctid wedi’i dreulio’n troseddu ac yn ymladd â gangiau eraill yn Llundain.

 

Dimitri

Rhoddodd Dimitri ei sgwrs yn Ysgol Teilo Sant yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerdydd lle soniodd am beryglon gangiau ac, yn benodol, y ffenomen newydd a elwir yn llinellau cyffuriau.

 

Mae’r ymadrodd hwnnw’n cyfeirio at arfer gangiau cyffuriau i ledaenu allan o ddinasoedd mawr i redeg ymgyrchoedd mewn ardaloedd llai.

 

 “Mae llinellau cyffuriau’n debyg i ganser, gan ymledu i wahanol ardaloedd a’u heintio. Nid problem i ardaloedd difreintiedig yn unig yw hi, mae bellach yn effeithio ar bobl mewn ardaloedd cefnog,” meddai Dimitri.

 

 “Yn aml, wedi iddyn nhw benderfynu ar leoliad newydd, bydd aelodau gang yn loetran ger fferyllfa. Yno byddant yn chwilio am rywun sy’n casglu methadon oherwydd mai sylwedd cyfnewid am herion yw hwnnw ac mae’n bosib iawn bod y person hwnnw yn gaeth i gyffuriau.

 

 “Yna byddant yn dilyn y person hwnnw adref ac yn meddiannu’r eiddo trwy rym neu drwy gynnig cyffuriau i’r person hwnnw. Byddant wedyn yn rheoli’r eiddo fel canolfan i’w hymgyrch. Cogio yw’r term am hyn.

 

 “Ond nid pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn unig sydd mewn perygl, byddant hefyd yn targedu pobl sy’n agored i niwed a phobl anabl oherwydd eu bod yn hawdd eu rheoli.”

Caiff pobl ifanc lleol eu defnyddio’n aml fel rhan o’r ymgyrch i werthu a chludo cyffuriau.

 

Trwy gynyddu ymwybyddiaeth o’r broblem hon a chwalu’r myth bod rhywfaint o glamor ynghlwm wrth fod yn rhan o’r fath beth, mae Dimitro’n gobeithio atal llinellau cyffuriau rhag gwreiddio mewn cymunedau lleol.

 

 “Mae’r gangiau hyn yn recriwtio plant, weithiau mor ifanc â 10 oed, i’w helpu i ddosbarthu eu cyffuriau ac mae llawer o bobl ifanc am gymryd rhan gan eu bod yn gweld aelodau’r gang yn arddangos arian ac yn gwneud i’r ffordd o fyw ymddangos yn ddeniadol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol,” ychwanegodd.

 

 “Mae elfen o gaethwasiaeth ddynol i’r peth hefyd oherwydd eu bod yn addo arian i’r plant hyn yn aml nad ydynt yn ei gael. Wedyn maent yn dweud wrth y plant y byddant yn cael dwywaith yr arian os ydynt yn gweithio dros benwythnos arall.

 “Pan dwi’n clywed bod plentyn wedi mynd ar goll nawr, y peth cyntaf dwi’n meddwl amdano yw bod y diflaniad yn ymwneud â llinellau cyffuriau. Dyna pa mor fawr mae’r broblem hon.

 

 “Does dim ffordd benodol o ddatrys y broblem hon. Yr hyn dwi’n ceisio ei wneud yw dangos nad yw’r ffordd hon o fyw yn ddeniadol o gwbl a chynyddu ymwybyddiaeth pobl o’r peryglon sydd ynghlwm wrthi. Y gobaith yw y bydd yn eu gwneud yn llai tebygol i gael eu sugno i mewn iddi.”

 

Nod Wythnos Genedlaethol Diogelu yw codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ffurfiau ar gamdriniaeth a phwysleisio’r ffaith fod gan bawb ran i'w chwarae wrth nodi camdriniaeth.