Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn ymuno â gwirfoddolwyr lleol i wneud Nadolig pob plentyn yn un arbennig

Mae’r Big Wrap yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i roi anrhegion i blant difreintiedig ledled y sir.

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg


 

Christmas presents

 

Y llynedd, rhoddwyd dros 2000 o anrhegion i 350 o bobl ifanc oedd mewn perygl o beidio â chael unrhyw beth neu ddim llawer dros y Nadolig. 

 
Mae Tîm Buddsoddi Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg yn un o'r amryw bartneriaid sy'n cefnogi apêl eleni. Gwirfoddolwyr sydd wrth yr awenau, mae’r Big Wrap yn dibynnu’n gyfan gwbl ar gyfraniadau gan sefydliadau lleol ac aelodau'r cyhoedd.


Yn seiliedig yn y siop ddodrefn, Restore, ar Thompson Street yn Y Barri, mae’r apêl yn cefnogi plant o’u genedigaeth i pan fyddant yn 19 oed, ac yn croesawu cyfraniadau o bob rhan o’r Fro.


Mae’r tîm yn hapus i dderbyn teganau, rhai newydd a rhai sydd wedi'u hagor, a rhoddion neu gyfraniadau ariannol. Mae rhestr ddymuniadau eleni’n cynnwys gemau bwrdd, setiau dolis, setiau trenau a setiau pethau ymolchi i fechgyn.


Os allwch chi sbario ychydig o geiniogau dros yr ŵyl, beth am roi anrheg ychwanegol yn eich basged siopa Nadolig a chyfrannu at y Big Wrap?


Bydd y tîm yn eu siop untro ar Thompson Street o ddydd Mawrth – dydd Sadwrn, rhwng 10:00am a 5:00pm tan 12 Rhagfyr. 


Dywedodd Susan Lloyd-Selby, sy’n gwirfoddoli gyda’r Big Wrap:

 

“Y llynedd, roedd yn wych yn gweld yr ysbryd cymunedol yn ac o amgylch y Barri, gan fod cefnogaeth glên preswylwyr yn golygu y bu modd i ni roi anrhegion i blant – na fyddai o bosibl wedi cael unrhyw beth dros y Nadolig. 


“Buasem yn ddiolchgar iawn pe gallai'r cymorth hwn barhau eto eleni, ac yn edrych ymlaen at gwrdd aelodau'r cyhoedd yn ein siop undydd newydd ar Thompson Street.””

Petai’n well gennych gyfrannu arian, gallwch wneud sieciau'n daladwy i 'The Big Wrap' a'u hanfon i Eglwys Coastlands, Tennyson Road, Colcot, Y Barri CF62 9TN.


I gael rhagor o wybodaeth am yr apêl, ewch i The Big Wrap ar Facebook.