Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth cofrestru marwolaethau yn cael ei lansio yn Llandochau

Bydd Gwasanaeth Cofrestru Marwolaethau yn cael ei lansio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ym mis Ionawr. 

 

  • Dydd Gwener, 30 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



Bydd swyddfa newydd y cofrestrydd yn cael ei gynnal gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd y Brifysgol ar y cyd, a bydd wedi ei leoli drws nesaf i’r Gwasanaeth Profedigaeth ar lawr cyntaf Ysbyty Athrofaol Llandochau.  

 

UHL Web

Bydd y gwasanaeth newydd yn galluogi teuluoedd mewn profedigaeth i gofrestru marwolaeth eu hanwyliaid ar ôl iddynt gael y dystysgrif farwolaeth. 

 

Y gobaith yw y bydd hyn o gymorth yn ystod yr hyn a all fod yn adeg ofidus drwy gael gwared ar yr angen i drefnu apwyntiad ar wahân ac wedyn teithio i Benarth neu i’r Barri i gofrestru marwolaeth. 

 

Mae gwasanaeth tebyg wedi bod yn weithredol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ers 2008 ac mae wedi cael adborth cadarnhaol.

 

Bydd swyddfa’r cofrestrydd sy’n gweithredu yn Westhouse ym Mhenarth ar hyn o bryd yn cau o ganlyniad. Y swyddfa hon yw’r unig ragorsaf sy’n gweithredu o hyd.

 

Bydd prif swyddfa’r cofrestrydd yn y Swyddfeydd Dinesig yn parhau i gynnig gwasanaethau cofrestru os hoffai teuluoedd ddefnyddio hwnnw yn lle. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Hunter Jarvie, yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Rheoleiddiol a Chyfreithiol: “Mae mwy na 50% o farwolaethau a gofrestrir yng ngwasanaeth Cyngor Bro Morgannwg yn berthnasol i farwolaethau a gofnodwyd yn Ysbyty Llandochau. 

 

“Drwy symud un aelod o staff o’r rhagorsaf ym Mhenarth i’r ysbyty byddwn yn gwneud y broses o gofrestru marwolaeth yn llawer haws i nifer o deuluoedd. Ar adeg a all fod yn anodd iawn, gall newid bach o’r fath wneud gwahaniaeth sylweddol.

 

"Rwy’n gobeithio’n fawr iawn mai hwn fydd profiad y rheiny a fyddant yn ei ddefnyddio, a byddwn ni’n monitro’r sylwadau a ddaw yn agos.”

Caiff y gwasanaeth ei lansio fel cynllun peilot yn y lle cyntaf. Caiff sylwadau'r defnyddwyr gwasanaeth eu casglu drwy arolygon boddhad yn ystod y cyfnod peilot i sicrhau ei fod o fudd i deuluoedd mewn profedigaeth.