Cost of Living Support Icon

 

Arddangosfa'r Cofio yn agor yn Oriel Celf Canolog y Barri

Mae arddangosfa gelf i gofio 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ddangos yn yr Oriel Gelf Ganolog.

 

  • Dydd Mercher, 14 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith celf gan Charles Burton, ffotograffiaeth gan Peter Cattrell a gwaith ysgrifenedig gan yr Athro Tony Curtis. 

 

Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor y Fro, y Cynghorydd Janice Charles.

 

Roedd yr arddangosfa’n cynnwys printiau monocrom ysgytwol o Cattrell a gwaith pwerus Burton, The Ambulance Men.

 

Dywedodd y Cynghorydd Janice Charles, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Bro Morgannwg:

 

“Mae’r angerdd sydd i’w weld yn y gwaith gan yr artistiaid hyn a’r teimladau y maent

yn eu deffro ynom ni yn syfrdanol wrth i ni gofio am y rheini a ymladdodd ac a roddodd

eu bywydau a'r rheini a oroesodd gyda’r sgil-atgofion trawmatig hynny o’r rhyfel.”

 

 

Tony Curtis

 

 

Mae paentiadau Charles Burton yn arddangos “pobl gyffredin” y rhyfel, gan gynnwys gwŷr ambiwlans y Groes Goch, tra bod darluniau Peter Cattrell o’r ffosydd, y leiniau coed a’r gwifrau pigog yn cyfleu tirwedd ysgytwol. 

 

Bydd yr oriel hefyd yn croesawu’r Athro Tony Curtis ddydd Iau 22 Tachwedd wrth iddo gyflwyno "From Pembrokeshire to Passchendaele and Perth: My Family in the Great War."

 

Bydd yr Oriel Gelf Ganolog hefyd yn cynnal trafodaeth â’r ffotograffydd Albanaidd, Peter Cattrell, ddydd Llun 3 Rhagfyr. Bydd Cattrell yn sôn am ei yrfa mewn ffotograffiaeth, gan gynnwys y darluniau teimladol ‘Echoes of the Great War’.

 

Bydd yr arddangosfa, sydd am ddim, yn oriel y Barri tan ddydd Sadwrn 1 Rhagfyr.

 

 

Remembrance exhibition opens