Cost of Living Support Icon

 

Dyfarniad cyflog heb ei ariannu yn cyfateb i doriad o £1.8m i ysgolion medd y cyngor

Yr unig ffordd o dalu am ddyfarniad cyflog cenedlaethol newydd i athrawon yw torri gwasanaethau mewn meysydd eraill yn yr ysgolion oni bai fod arian yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, meddai'r Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Sgiliau.

 

  • Dydd Gwener, 16 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



 

Mae ariannu cost uwch o filoedd o swyddi addysgu yn y Fro yn un o nifer o benderfyniadau anodd y mae'r Cyngor yn eu hwynebu wrth iddo ddechrau ar y broses o bennu ei gyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd y Cynghorydd Penrose: "Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynnydd o 3.5% yng nghyflogau athrawon a fyddai'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Dilynwyd hyn gan y cyhoeddiad y bydd cynnydd o 5% yng nghyfraniad cyflogwyr i bensiynau athrawon. Yr hyn oedd ar goll oedd esboniad o sut y byddai'n talu amdano.

 

"Mae athrawon ym Mro Morgannwg yn gwneud gwaith o’r radd flaenaf, rhywbeth oedd yn glir i bawb pan gofnododd y Fro rai o'r canlyniadau arholiad gorau yn y wlad yr haf hwn. Nid oes amheuaeth nad ydynt yn haeddu cyflog teg am eu hymdrechion, ond mae gorfodi ysgolion i ddod o hyd i godiadau cyflog o gyllidebau sydd eisoes wedi'u hymestyn i'r eithaf yn golygu torri eu harian ymhellach fyth.

 


Cllr John Thomas

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae sefyllfa ariannol holl awdurdodau lleol Cymru erbyn hyn yn enbyd. Yn y Fro mae gennym hanes o reolaeth ariannol hynod ddarbodus. Er gwaethaf hyn, mae degawd o doriadau yn ein gadael yn wynebu diffyg yn y gyllideb na ellir ei gyflawni heb edrych ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu."

 

 

Mae'r sylwadau yn dilyn rhybudd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) ynglŷn â’r pwysau llym y mae ysgolion yn eu hwynebu, ac y bydd cyrff llywodraethol yn cael eu gorfodi i dorri swyddi dysgu a chyllidebau ysgolion ar raddfa enfawr os na fydd cynnydd yng nghyflogau athrawon a phensiynau’n cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth y DU.

 

 

 

 

Dywedodd Aled Evans, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC):

 

"Hyd yma mae Cynghorau wedi llwyddo i amddiffyn cyllidebau ysgolion i ryw raddau rhag

y toriadau enfawr sydd wedi dinistrio gwasanaethau gwerthfawr eraill i’r eithaf. Fodd bynnag, gydag ysgolion yn gorfod ysgwyddo pwysau ariannol cynyddol, ni fydd gan Gynghorau lawer

o ddewis ond i wneud penderfyniadau anodd iawn a fydd yn anochel yn effeithio ar y ffordd y caiff addysg ei darparu yng Nghymru.

 

"Mae athrawon yn hanfodol i helpu disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial yn ein hysgolion, ac maent yn haeddu cael eu gwobrwyo am y rôl anhygoel o werthfawr y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau. Ond mae'n amlwg bod y £23m sydd wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth y

DU ymhell o fod yn ddigon i dalu am ddyfarniad cyflog athrawon ac rydym yn eu hannog i

ddilyn eu polisi datganiad cyllid eu hunain, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ariannu unrhyw oblygiadau ariannol o'i newidiadau polisi eu hunain yn llawn."

 

"Erbyn hyn mae ein hysgolion yn teimlo straen y toriadau llym parhaus yn y gyllideb.Yn sgil cyllideb San Steffan, disgwylir y bydd Llywodraeth Leol yn cael £58m posibl mewn symiau canlyniadol. Er mwyn osgoi trychineb bosibl i ysgolion Cymru, mae'n hanfodol bod addysg

yn cael ei blaenoriaethu pan ddaw'r cyllid hwn i lawr y M4 i Drysorlys Cymru."

 

Bydd adroddiad yn nodi cynigion cyllideb refeniw cychwynnol y Cyngor yn cael ei ystyried gan ei Gabinet ar 19 Tachwedd. Mae'r adroddiad yn nodi ei bod yn debygol y bydd bwlch ariannu o tua £10.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion i fynd i'r afael â hyn yn dechrau cyn diwedd y flwyddyn.