Cost of Living Support Icon

 

Cartrefi'r Fro'n llofnodi addewid chi i sefyll yn erbyn cam-drin domestig

Mae Cartrefi’r Fro wedi llofnodi addewid y Sefydliad Siartredig Tai yn erbyn cam-drin domestig, gan ymuno â darparwyr tai eraill drwy’r DU.

 

  • Dydd Llun, 26 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r Sefydliad Siartredig Tai yn llais annibynnol ar gyfer tai ac yn gartref safonau proffesiynol.

 

Mae Cartrefi'r Fro yn darparu gwasanaethau i ychydig mwy na 4,000 o denantiaid cyngor, sy’n golygu mai’r Cyngor yw’r landlord mwyaf ym Mro Morgannwg. 

 

Mae’r addewid yn cynnwys:

 

  • sicrhau bod staff yn gwybod sut i fanteisio ar gymorth a’u bod yn gwybod am y polisi gwaith cam-drin domestig corfforaethol;

  • ymsefydlu Polisi Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cartrefi’r Fro sy’n sicrhau bod tenantiaid yn cael ey cymorth gorau gennym ni fel landlord;

  • codi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth cam-drin domestig yn y Fro a dangos ein cefnogaeth ar y lefel uchaf;

  • hyrwyddo gwaith ein huwch bencampwr cam-drin domestig a phenodi nifer o hyrwyddwyr yn y timau staff a all roi cymorth arbenigol ar gam-drin domestig

 

Vale Leader and Cabinet Members

 

 

Mae’r tîm yn ymdrechu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y cymorth cywir a allai gynnwys naill ai aros gartref neu edrych am ddewisiadau llety eraill.

 

Fel landlord, mae hefyd yn cydnabod bod mwy i gymorth na llety, mae’n ymwneud â sicrhau bod cymorth ehangach ar gael i ymrymuso dioddefwyr i ail-adeiladu bywydau cadarnhaol a rhydd rhag trais.

 

Y nod, er ei fod yn uchelgeisiol, yw sicrhau bod unrhyw un sydd naill ai’n byw yn eiddo Cartrefi’r Fro neu’n gweithio gyda’n gwasanaethau’n gwybod sut i fanteisio ar gymorth a chyfrannu at ddod â thrais yn erbyn merched i ben yn y Fro. 

 

Bob blwyddyn yn y DU, mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef trais domestig ac mae mwy na 360,000 yn dioddef ymosod rhywiol.

 

Er bod cam-drin yn erbyn menywod yn gymharol uwch, mae trais a cham-drin yn gallu effeithio ar unrhyw un.

 

Os ydych chi, neu os ydych chi yn adnabod rhywun sydd yn byw gyda cham-drin domestig, gallwch gysylltu ag Atal y Fro ar 01446 744 755.

 

Os ydych chi, neu os ydych chi yn adnabod rhywun sydd yn byw gyda cham-drin domestig, gallwch dderbyn help a chymorth o’r llinell gymorth ar 0808 80 10 800 (llinell gymorth rydd a cyfrinachol ar agor 24awr) neu ar  www.livefearfree.gov.wales

 

 

Vale homes white ribbon pledge