Cost of Living Support Icon

 

Cyfres Insport y Fro i gynnig sesiynau anabledd am ddim

Mae Tîm Datblygu Chwarae Cyngor y Fro wedi trefnu diwrnod o sesiynau anabledd am ddim.

 

  • Dydd Mercher, 07 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



Mae dros 50 o glybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar draws y Fro sy’n cynnig cyfleoedd i bobl anabl.

 

Child on tricycle

 

Cynhelir y sesiynau yng Nghanolfan Hamdden y Barri ddydd Sadwrn 17 Tachwedd o  11.30am tan 2pm.

 

Mae’r sesiynau yn cynnwys blas o chwaraeon megis boccia, athletau a rygbi.

 

Bydd aelodau Tîm Datblygu Chwarae’r Fro wrth law i gynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Simon Jones, Uwch Swyddog Byw’n Iach (Chwaraeon Anabledd) trwy ffonio 704728 neu e-bostio SLJones@valeofglamorgan.gov.uk.