Cost of Living Support Icon

 

Rhybudd i drigolion y Fro yn dilyn adroddiadau am gasglwyr elusen ffug

Mae trigolion y Fro yn cael eu rhybuddio o gasglwyr elusen ffug, yn dilyn adroddiadau i Heddlu De Cymru.

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg



Yn ambelli achos, mae twyllwr hyd yn oed wedi defnyddio enw, logo a rhif cofrestriad elusen dilys, i gymryd cyfraniadau a chadw’r elw.

 

cold caller image

 

Mae trigolion yn gallu gosod arwydd ar y drws i atal ymweliadau diangen.

 

Os ydych yn pryderu a yw casgliad yn ddilys gallwch:

 

  • Geisio cysylltu â’r elusen i wirio bod y casgliad yn gyfreithlon

  • Os ydych chi’n siarad gyda rhywun wrth y drws – gofynnwch i weld eu trwydded a bathodyn swyddogol 

  • Gweld a yw’r daflen ond yn rhoi rhifau ffôn symudol  neu ddim o gwbl oherwydd y gallai hyn fod yn arwydd nad ydynt yn casglu ar ran elusen ddilys

     

     

     

  • Rhoi eich rhoddion yn uniongyrchol i’ch siop elusennol leol neu unrhyw bwyntiau dillad swyddogol 

  • Cynnwys eich ffrindiau a’ch cymdogion a chysylltu â’ch Cynllun Gwarchod Cymdogaeth leol

 

 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon, gallwch roi gwybod i ni am drosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, drwy gysylltu â 101.