Cost of Living Support Icon

 

Rhybudd  Sgam Dŵr Cymru ac Iechyd Amgylcheddol

Mae sgamwyr wedi cysylltu â nifer o drigolion y Fro yn esgus bod o Iechyd yr Amgylchedd neu Dŵr Cymru.

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Tachwedd 2018

    Bro Morgannwg


 

Doorstop caller

Mae’r sgamwyr hyn yn dweud wrth bobl fod ganddynt broblem llygod mawr yn eu cartref ac yn gofyn am arian gan y preswylwyr i ddatrys y broblem – problem nad sy’n bodoli.

 

Mae hon yn adeg prysur iawn o’r flwyddyn i fasnachwyr twyllodrus a sgamwyr.

 

Efallai y bydd rhywun yn dweud wrthoch fod angen gwneud gwaith ar eich cartref neu eich gardd, neu gallai’r galwr esgus bod o’r cyngor neu gorff swyddogol arall.

 

Dwedwch wrth deulu a ffrindiau i wrthod pobl sy’n galw yn y tŷ ac i roi’r ffôn i lawr os ydynt yn teimlo dan bwysau mewn unrhyw ffordd.

 

Hefyd cofiwch:

  • Byddwch yn wyliadwrus wrth ateb y drws neu’r ffôn.

  • Peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol iddynt e.e. manylion banc, cyfrinair neu rif PIN.

  • Peidiwch ateb, lawrlwytho atodiadau na chlicio ar ddolenni amheus mewn e-byst.

  • Os ydych yn pryderu, peidiwch a gadael dieithriaid i’r tŷ.

 

Byddwch yn wyliadwrus os:

  • Daw rhywbeth o unman neu gan rywun nad ydych yn eu hadnabod

  • Yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir e.e. Eich bod wedi ennill y loteri

  • Gofynnir i chi dalu am rywbeth ymlaen llaw – yn enwedig trwy drosglwyddiad banc

  • Gofynnir am wybodaeth bersonol – fel eich manylion banc, cyfrineiriau cyfrifiaduron neu rifau PIN

  • Cewch eich rhoi dan bwysau i brynu rhywbeth neu i ddod i benderfyniad sydyn – bydd cwmni o’r iawn ryw yn hapus i aros

  • Os gofynnir i chi ffonio rhif ffôn drud – mae’r rhain yn dechrau gyda 070, 084, 087, 090, 091, 098

 

Gallwch chi roi gwybod i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu SHeddlu De Cymru ar 101.