Cost of Living Support Icon

 

Awydd ffermwyr lleol am Farchnad Da Byw

Cyhoeddwyd adroddiad yn edrych ar anghenion ffermwyr lleol ac ar yr angen am farchnad da byw hyfyw yn y rhanbarth. 

 

  • Dydd Mawrth, 09 Mis Hydref 2018

    Bro Morgannwg



Comisiynwyd yr adroddiad gan Gymunedau Gwledig Creadigol, menter Adfywio Gwledig Cyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â’r NFU, FUW, ffermwyr lleol a’r gweithredwyr marchnad cyfredol. 

 

Cafwyd cefnogaeth lethol am yr angen parhaol am arwerthiannau da byw traddodiadol yn lleol gyda chefnogaeth gref i’r angen i ddarparu ar gyfer gwerthu da byw cymysg ac ailgyflwyno gwerthu da ochr yn ochr â defaid, a gwerthiannau arbenigol yn y lleoliad iawn.

Creative-Rural-Communities-logo

 

Er bod nifer y marchnadoedd da byw wedi lleihau mewn blynyddoedd diweddar, maent yn dal yn 50% o’r gwerthiannau da byw ledled y DU.

 

 

Bu rhaglen helaeth o ymgynghori ac ymgysylltu i lywio canfyddiadau a chasgliadau’r astudiaeth. Cafwyd rhyw 95 sgwrs unigol gyda ffermwyr a rhanddeiliaid eraill ac ymatebodd 120 o bobl eraill i’r arolwg ar-lein.

 

 

 

 

 

Dywedodd y Cyng. Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio: “Mae’r adroddiad hwn wedi rhoi ffordd ymlaen glir i ni a byddwn nawr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn y rhanbarth i nodi’r camau nesaf. Byddai angen i unrhyw farchnad newydd fod yn ddichonadwy gyda’r cymysgedd iawn o gyllid a modelau gweithredu ac wedi'i lleoli'n briodol, gan leihau cyfyngiadau safle.”

 

Yn sgil pryderon dealladwy am yr ansicrwydd yn y dyfodol o ran cynhyrchu defaid ar ôl Brexit, teimlodd yr holl randdeiliaid yn gryf na ddylai cyfleuster newydd fod yr un peth yn union â chyfleusterau eraill ac y dylai gael ei ddefnyddio am fwy nag un diwrnod yr wythnos. Mae angen ystyried defnyddiau lluosog eraill wrth adeiladu a gweithredu safle newydd wedi’i leoli’n briodol. Gellir ategu ar refeniw sy’n dod o werthiannau da byw trwy gynnal gwerthiannau anifeiliaid nad ydynt yn dda byw.

 

Ariannwyd yr adroddiad gan Gyngor y Fro a Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd dros Ddatblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd Andrew Thomas o Glamorgan Marts, “Dyma ddarn pwysig o waith sy’n cynnig casgliad clir a chryno - Canolfan Arwerthiannau aml-swyddogaeth, er budd ffermwyr yng nghanol a de Morgannwg yw’r ffordd ymlaen."

 

Gallai cyfleuster marchnad newydd hefyd helpu ffermwyr i arallgyfeirio ac ychwanegu gwerth at eu cynhyrchion trwy ddarparu cyfleusterau a rennir megis torri cig a mynediad at storfeydd oer; gan eu helpu i werthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid.

 

I ddarllen yr adroddiad ewch i Cymunedau Gwledig Creadigol