Cost of Living Support Icon

 

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg yn ymddangos ar BBC Radio Wales i dynnu sylw at danariannu disgyblion 

Mae Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, John Thomas, wedi ymddangos ar raglen Good Morning Wales BBC Radio Wales i wthio ymhellach am setliad addysg tecach gan Lywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Iau, 11 Mis Ebrill 2019

    Bro Morgannwg



Y cyllid fesul disgybl yn y Fro yw’r isaf yng Nghymru, gyda’r Cyngor yn derbyn £568 y disgybl yn llai na chyfartaledd Cymru a £1,349 yn llai na’r Awdurdod Lleol sydd wedi cael y mwyaf o arian. 


Gallai ysgol gynradd â 210 o leoedd yn y Fro gael £119,000 y flwyddyn yn ychwanegol petai’n cael y swm cyfartalog. 


Y llynedd ysgrifennodd y Cynghorydd Thomas lythyr ar y cyd â Chadeirydd y Fforwm Cyllideb Ysgolion, Dr Vince Brown, at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn codi pryderon am y sefyllfa.


A’r wythnos ddiwethaf daeth 10 o Benaethiaid Penarth ynghyd i dynnu sylw Llywodraeth Cymru at yr effaith negyddol mae hyn yn ei gael ar sut mae ysgolion yn gweithio.

 

johnthomas

Gan siarad gyda’r cyflwynydd, Dot Davies, dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Dwi’n poeni’n fawr, ac fel Cyngor rydym yn poeni am y lefel cyllid rydym yn ei chael ar gyfer addysg. Yn anffodus, y sgil-effaith yw nad yw ysgolion cystal ag y dylent fod.


“Mae’n bwysig sylweddoli ein bod yn cael y rhan fwyaf o’n cyllid wrth Lywodraeth Cymru drwy ein setliad a bod yn rhaid i ni ddefnyddio’r cyllid hwnna ar gyfer yr holl wasanaethau sydd angen i ni eu cynnig.


“Mae gan Lywodraeth Cymru yr hyn maent yn ei alw’n Asesiad Wedi’i Seilio ar Ddangosyddion, sy’n cyfrifo faint maen nhw’n meddwl y dylem fod yn ei wario ar ein hysgolion i’w cadw i redeg, ac ar hyn o bryd rydym ni, fel Awdurdod, yn ariannu ein hysgolion ar tua £4 miliwn yn uwch na’r Asesiad Wedi’i Seilio ar Ddangosyddion.


“Yn fy marn i, mae hi braidd yn anonest i Lywodraeth Cymru ddweud mai ein penderfyniad ni yw sut rydym yn penderfynu ariannu ysgolion. Dim ond yr arian rydym yn ei gael ganddyn nhw y gallwn ei ddefnyddio.


“Y broblem ym Mro Morgannwg yw ein bod yn cael £600 y disgybl yn llai na’r cyfartaledd yng Nghymru, ond mae yna broblem ledled y wlad hefyd. Mae hyd yn oed y cynghorau sy’n cael eu hariannu’n uwch na’r asesiad yn cael trafferthion, felly mae’n amlwg y bydd bywyd yn anodd ar Fro Morgannwg.”

 

Welsh Government’s pupil funding formula has been taken from information gathered from Mae fformiwla ariannu disgyblion Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd yng nghyfrifiad 1991, ac nid yw wedi’i adolygu ers hynny.

 

Civic

“Rydym wedi bod yn gofyn ers cryn amser am eglurhad o sut mae’r fformiwla yn gweithio, ond does neb yn gallu rhoi ateb i ni,” ychwanegodd y Cynghorydd Thomas. Mae llawer o’r data sy’n cael ei ddefnyddio i lunio’r fformiwla yn fwy na 30 mlwydd oed, sy’n ymddangos yn hollol annheg.


“Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar lawer o ffactorau, ac mae amddifadedd yn un ohonynt.

 

Allwn ni ddim honni y dylai Bro Morgannwg gael ei hariannu ar yr un lefel â rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ond yn y pen draw mae’n costio’r un faint i addysgu plentyn, ble bynnag yr ydych chi, ac mae’n costio yr un faint i gyflogi athrawon. Mae gennym yr un costau ag awdurdodau eraill ac rydym yn cael £600 y disgybl yn llai na chyfartaledd Cymru.


“Mae cynghorau eraill yn cael trafferth, ydyn, ond oes syndod bod y Fro’n ei chael hi’n anodd gyda lefelau ariannu mor isel?
“Dwi’n mynychu llawer o gyfarfodydd Fforwm y Gyllideb ac mae’r Penaethiaid yn dueddol o fod yn gefnogol o’r Fro yn y ffordd rydym yn cefnogi ysgolion y tu hwnt i’r Asesiad Wedi’i Seilio ar Ddangosyddion.


“Ein cyllideb yn y Fro yw £225 miliwn ac mae tua hanner hynny’n cael ei wario ar addysg, sy’n golygu bod arian yn cael ei gymryd i ffwrdd o wasanaethau eraill. Y Gwasanaethau Cymdeithasol yw’r ail wasanaeth mwyaf, ar ôl Addysg.


“Mae dewisiadau anodd o’n blaenau. Gallem ddewis gwario mwy o arian ar addysg, ond byddai’r arian hwnnw’n dod o’r gyllideb ar gyfer gwasanaethau hanfodol eraill.”