Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 18 Mis Ebrill 2019
Bro Morgannwg
Disgwylir i broject Cyngor Bro Morgannwg adfer gwylltineb y safle ddechrau yn fuan a bydd yn ceisio, gyda chymorth gwirfoddolwyr, wella bioamrywiaeth y safle a chynyddu nifer y rhywogaethau megis peillwyr, creaduriaid di-asgwrn cefn, ymlusgiaid, adar a mamaliaid.
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, “Mae ailgyflwyno rhywogaethau i ardal lle roeddent yn doreithiog yn y gorffennol yn ffordd wych o ddiogelu bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd y cynlluniau i adfer y rhan hon o’r parc yn ofalus i’w gyflwr gwyllt blaenorol yn ychwanegu at brofiad ymwelwyr a byddwn yn helpu’r llu o grwpiau ysgol sy’n ymweld â’r parc i ddysgu am bwysigrwydd bioamrywiaeth a rheoli tir mewn modd sensitif.”
Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Bird, yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Chynllunio, “Mae ailgyflwyno rhywogaethau i ardal lle roeddent yn doreithiog yn y gorffennol yn ffordd wych o ddiogelu bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y cynlluniau i adfer y rhan hon o’r parc yn ofalus i’w gyflwr gwyllt blaenorol yn ychwanegu at brofiad ymwelwyr a byddwn yn helpu’r llu o grwpiau ysgol sy’n ymweld â’r parc i ddysgu am bwysigrwydd bioamrywiaeth a rheoli tir mewn modd sensitif.”
Cysyniad ecolegol yw ailwylltio lle mae rheoli safle yn ofalus yn galluogi ecosystemau naturiol i adennill yr amrywiaeth a’r digonedd oedd ganddynt gynt. Bydd Tîm Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr lleol, grwpiau bywyd gwyllt a Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli’r ardal newydd a sicrhau bod y cynefin newydd yn ffynnu.
Meddai Alison Palmer o Grŵp Bywyd Gwyllt Porthceri, “Bydd y cynigion cyffrous hyn yn helpu i ddiogelu a chyfoethogi’r bywyd gwyllt a’r cynefinoedd anhygoel a geir ym Mhorthceri. Fel grŵp, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Cyngor a’u gwirfoddolwyr ar y daith gyffrous hon.”
Roedd yr hen gwrs golff wedi dioddef llifogydd sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd newidiadau ar y traeth cerigos ac erydu arfordirol.
Er gwaethaf cael ei leihau o 18 twll i 12, yn aml nid oedd modd chwarae ar y cwrs a bu rhaid ei leihau eto ond roedd yn amhosibl dylunio cwrs nad oedd yn llenwi â dŵr ar ôl unrhyw law sylweddol.