Cost of Living Support Icon

 

Adroddiad yn datgelu bod tenantiaid Tai Cyngor Bro Morgannwg yn hapus gyda’u cartrefi

 

Mae mwyafrif y tenantiaid tai yng Nghyngor Bro Morgannwg yn hapus yn eu cartrefi, yn ôl adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Ebrill 2019

    Bro Morgannwg



AwberynewDatgelwyd ynddo fod 83 y cant ohonynt yn disgrifio eu hunain fel bodlon gydag ansawdd eu heiddo ac mae 81 y cant yn fodlon ar y gwasanaeth y maent yn ei gael gan y Cyngor.

 

Mae mwy na dau allan o bob tri (69 y cant) yn adrodd eu bod yn teimlo bod eu barn yn cael ei chlywed ac y gweithredir arni gan yr Awdurdod.

 

Daw’r newyddion ar ôl i’r Cyngor wario £92 miliwn yn ddiweddar i uwchraddio ei stoc dai i fodloni safonau Llywodraeth Cymru.

 

Roedd hyn yn cynnwys cwblhau rhaglen i safoni 3,800 o gartrefi hyd at y lefel a nodwyd erbyn 2020.

 

 

 

 

Mae’r gwaith wedi cynnwys:

 

- Gosod bron i 3,500 o geginau newydd.Awberynew

- Gwella dros 3,000 o ystafelloedd ymolchi

- Gosod tua 1,000 o systemau gwres a boeleri newydd

- Ailweirio dros 3,500 o gartrefi

- Ailosod tua 1,400 o doeon

- Inswleiddio wal allanol mewn mwy na 550 o gartrefi

- Gwneud gwaith trwsio allanol gan gynnwys ail-bwyntio, paentio a gwaith rendro mewn bron i 3,000 o gartrefi.

 

Mae’r Cyngor nawr wedi cychwyn cam nesaf Safonau Ansawdd Tai Cymru, sef cynnal a gwella’r stoc dai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Parker, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: “Rwy’n hynod falch bod yr adroddiad hwn yn dangos bodlonrwydd tenantiaid Cyngor y Fro gyda’u heiddo.

 

 “Fe wnaethom gwblhau ein dyletswydd dan Safonau Ansawdd Tai Cymru ymhell cyn y dyddiad terfynol yn 2020 ac, o ganlyniad, caiff y rhai y mae angen tai cymdeithasol arnyn nhw yn y Fro safon byw well.

 

 “Rydym ni hefyd wedi neilltuo swm sylweddol o arian er mwyn cynnal yr eiddo hwn dros y blynyddoedd a ddaw.

 

 “Hon fu’r rhaglen fuddsoddi fwyaf yn stoc dai’r Cyngor ers codi’r tai.  Mae’r Cyngor yn falch o fuddsoddi mewn tai ar gyfer preswylwyr ac mae'r budd i’n tenantiaid a ddaw o hynny'n fwy na chael cartref modern y gallant ymfalchïo ynddo; mae hefyd yn datblygu cymdogaethau a chymunedau lle mae’r preswylwyr eisiau byw.”