Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn ymrwymo cyllid i ddau sefydliad cymorth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i roi cefnogaeth ariannol pellach – cyfanswm o dros £700,000 dros y tair blynedd nesaf – i ddau sefydliad sy’n rhoi cymorth a chyngor i breswylwyr.

 

  • Dydd Mercher, 17 Mis Ebrill 2019

    Bro Morgannwg



Bydd y Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn derbyn £154,000 y flwyddyn, ac mae Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GGM) wedi cael £95,530 y flwyddyn.

 

Er gwaethaf heriau ariannol cynyddol, dyma’r un lefel o gyllid y gwnaeth y sefydliadau ei derbyn gan y Cyngor yn 2018/19.

 

Mae’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn cynnig ystod o wasanaethau i breswylwyr, gan gynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau a chredydau treth, nwyddau a gwasanaethau cwsmeriaid, rheoli dyledion, tai, perthnasau a theuluoedd.

 

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl a chymunedau drwy gefnogi gwirfoddolwyr, cyfleoedd gwirfoddoli a grwpiau gwirfoddol.

 

Fel siop un stop i’r sector gwirfoddol, mae GGM yn bencampwr dros arfer gorau gydol sefydliadau gwirfoddol fel eu bod nhw’n rhagori ar gyflawni eu nodau a’u hamcanion.

 

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar bod agwedd ar wirfoddoli, ar gyfer Cllr-Ben-Gray-new-member-of-cabinet350x233gwirfoddolwyr a sefydliadau sy'n eu recriwtio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: “Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i gynnig a chefnogi gwasanaethau sy’n fuddiol dros ben i’n preswylwyr.

 

“Mae gwaith y Ganolfan Cyngor ar Bopeth a Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg yn helpu llawer iawn o bobl ledled y Fro.

 

“Gobeithiwn y bydd y cyfansymiau sylweddol y mae’r Cyngor wedi addo iddyn nhw dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn helpu’r gwaith pwysig hwnnw i barhau.”