Cost of Living Support Icon

 

Diwrnod y Llynges Fasnachol  

Cynhelir gwasanaeth coffa ddydd Mawrth 3 Medi, 10.00am yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. 

 

  • Dydd Mercher, 28 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg




Merchant Navy MemorialCynhelir y gwasanaeth gan Dirprwy Faer Bro Morgannwg, y Cyng. Jayne Norman, a bydd y Dirprwy Arglwydd Raglaw a Meiri Cynghorau’r Barri, Penarth, Llanilltud Fawr a Thref Bont-faen yn bresennol. 


Croeso i bawb ymuno â’r gwasanaeth a fydd yn anrhydeddu ac yn talu teyrnged i bawb sydd wedi gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol.  


Bydd awdurdod y Fro yn ‘Chwifio’r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol’ ac yn cofio ac yn anrhydeddu’r Morwyr Masnachol dewr sydd wedi gwneud yr aberth mwyaf yn ein hanes, yn enwedig yn ystod y ddau Ryfel Byd a'r gwrthdrawiadau ers hynny.