Cost of Living Support Icon

 

Ysgolion Bro Morgannwg yn disgleirio yn yr arholiadau Safon Uwch a Safon UG

Unwaith yn rhagor cynhyrchodd Bro Morgannwg berfformiad Safon Uwch gwych arall, gyda dros chwarter y myfyrwyr yn ennill y ddau radd uchaf.

 

  • Dydd Iau, 15 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg



I gyd, derbyniodd 27.7 y cant o ddisgyblion raddau A* neu A sydd yn uwch na chyfartaledd Consortiwm Canolbarth y De a’r cyfartaledd Cymreig. 


Derbyniodd 76.9 y cant swmpus o fyfyrwyr raddau A* i C, ffigwr sydd hefyd yn uwch na chyfartaledd Cymru, tra gwelwyd cynnydd o 1.1 y cant yn y ganran a enillodd drothwy Lefel 3 o ddau radd A* i E, sef i 98.1 y cant.


Cynyddodd hefyd y gyfran a safodd arholiad gan basio â gradd rhwng A* ac E i 98.1 y cant – 1.6 y cant yn uwch na’r llynedd.


O safbwynt ysgolion unigol, gwelwyd gwelliant cyffredinol yn Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr, gyda chyfradd y disgyblion a enillodd raddau A* i A, A* i C ac A* i E i gyd yn uwch na’r llynedd.


Ac, yn fuan wedi adroddiad arolygwyr disglair, rhagorodd Y Bont-faen unwaith yn rhagor gyda 30.6 y cant o fyfyrwyr yn ennill graddau A* i A ac 81.5 y cant yn ennill graddau A* i C.

 

Cowbridge Photos 005

Fe wellodd Ysgol Gyfun Sant Cyres ei ffigwr A* i C  9 y cant ac mae ffigyrau graddau A* i A ac A* i C Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg 7 y cant yn uwch na 2018.


n yr arholiadau Safon UG, enillodd 24.4 y cant o fyfyrwyr raddau A, 6.7 y cant yn fwy na 12 mis yn ôl.


Roedd y gyfradd basio hefyd yn uwch, cynnydd o 0,2 y cant ar y llynedd wrth i 97.6 y cant o ddisgyblion ennill graddau A* i E.

 

Cllr Lis Burnett small

llr Lis Burnett, Vale of Glamorgan Council Cabinet Member for Education and Regeneration, said: “I’m thrilled to see Vale of Glamorgan schools once again perform extremely well in A and AS Level examinations. These results are testament to the hard work and commitment of pupils and staff and I’d like to pass on my congratulations to all involved.  


“I’d also like to wish those students leaving our educational system every success for the future. These results suggest you can look forward with huge optimism.