Cost of Living Support Icon

 

Parciau arobryn y Fro yn rhoi'r gorau i ddefnyddio chwynladdwyr

Cyngor Bro Morgannwg oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi’r gorau i ddefnyddio Glyphosate yn ei barciau. 

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Awst 2019

    Bro Morgannwg



Foamstream collage banner
Mae’r Cyngor yn defnyddio Foamstream, technoleg heb chwynladdwyr Weedingtech i reoli llystyfiant nas dymunir mewn sawl parc yn y Fro, gan eu gwneud yn wyrddach, glanach a diogelach i ymwelwyr eu mwynhau.


Cafodd 10 safle a gedwir gan y Cyngor wobr Cadwch Gymru'n Daclus – statws Baner Werdd – arwydd o fan awyr agored o’r ansawdd uchaf, gan roi’r Fro ymysg yr awdurdodau sy’n perfformio orau yng Nghymru.


Mae Parc Romilly, Parc Alexandra a Gerddi Windsor, glan môr Ynys y Barri a Phenryn Friars, Parc Belle Vue, Parc Canolog, Gerddi’r Cnap, Parc Fictoria, Parc Gladstone, Parc Gwledig Cosmeston, Parc Gwledig Porthceri oll wedi derbyn y wobr, ac maent i gyd yn cael eu cynnal a chadw gyda Foamstream.


Rhaid ystyried wyth maen prawf wrth feirniadu’r wobr, gan gynnwys glendid, diogelwch a safon y gwaith cynnal a chadw, ac mae’r system rheoli chwyn newydd yn cyfrannu at bob un ohonynt.


Mae Foamstream yn gweithio drwy ddefnyddio gwres eithafol mewn dŵr berw i ladd y llystyfiant. Mae’r dŵr yn cael ei inswleiddio mewn sbwng bioddiraddiadwy sy’n atal y gwres rhag dianc i’r atmosffer o’i amgylch.


Mae cadw’r gwres am gyfnod hirach ar y planhigyn nas dymunir yn sicrhau ffordd fwy effeithiol o’i ladd. Mae Foamstream hefyd yn helpu i sterileiddio’r hadau a’r sborau sydd o gwmpas, gan leihau’r aildyfiant yn gyffredinol. 


“Rydym yn falch iawn o fod y Cyngor cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system rheoli chwyn heb blaladdwyr, ac mae hyn yn cyd-fynd â’n hethos Baner Werdd yn llwyr.


“Gyda’r system ddiogel a chost-effeithiol hon, gall ein tîm Parciau drin unrhyw chwyn a mwsogl mewn ardal chwarae, a gall trigolion ddychwelyd iddi bron yn syth.


“Mae’r safon sydd ei hangen i gyrraedd y Faner Werdd yn hynod uchel, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi cael ein dewis gan Cadwch Gymru'n Daclus i fod unwaith eto ymhlith yr awdurdodau sy’n perfformio orau yng Nghymru, yn dangos y gwaith caled ac arloesol a wnaed gan ein tîm Parciau .” - Cynghorydd Peter King, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth.


 “Rydym wrth ein bodd bod Foamstream wedi cyfrannu at lwyddiant y Fro yn ddiweddar. I gael gwobr y Faner Werdd ar draws cynifer o’i barciau yn gyflawniad anferth. 


“Yn ddiogel i’w ddefnyddio o gwmpas pobl, anifeiliaid a dŵr, mae Foamstream wir yn addas i’w ddefnyddio mewn mannau cyhoeddus. Rydym yn gobeithio y bydd llwyddiant y Fro yn gosod meincnod i gynghorau eraill ei ddilyn.” - Rheolwr Gwerthiannau Ewrop Weedingtech, William Palau.

 

Am ragor o wybodaeth am barciau ym Mro Morgannwg neu am Foamstream, ewch i'r isod.